Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-18

Yr Eisteddfod - Dydd Iau (3)

Eglwys Fair a Niclas, Biwmares

Eglwys Fair a Niclas, BiwmaresDrws nesa i'r carchar saif Eglwys Fair, neu'n hytrach Eglwys Fair a Niclas. Mae'r cysegriad i sant 'rhyngwladol' fel Niclas yn hytrach nag un Celtaidd fel arfer yn dangos dylanwad o'r tu fas, dylanwad y Normaniaid a'r Saeson. Yn yr achos hwn mae'n debyg fod hyn wedi digwydd adeg codi'r castell mawreddog pan welwyd fod angen lle o addoliad ar y trigolion newydd yn y castell ei hun a'r dref newydd o'i gwmpas - a doedd yr estroniaid ddim yn ymddiried yn y seintiau Celtaidd, roedd yn well ganddyn nhw eu saint cyfarwydd. Yn draddodiadol cysylltir yr ardal yma â Seiriol sy'n cael ei gofio yn enw'r ynys ar arfodir Penmon.

Misericord, Eglwys Fair a Niclas, BiwmaresFel pob eglwys mewn tref sirol, fel yr oedd Biwmares, mae'r adeilad yn llawn hynodion deniadol o bob math yn gofebau, ffenestri lliw, cerfiadau, &c. Mae'r côr yn dangos nodwedd a welir mewn eglwysi mawr cyfoethog sef misericord - ffordd i gôr eistedd tra'n dal i sefyll ar eu traed am oriau ar gyfer gwasanaethau hir. Ychydig o Gymraeg oedd i'w wedl o gwmpas yr eglwys, ond roedd 'na un gofeb drawiadol iawn am eu dwyieithrwydd i Dafydd Huws, neu David Hughes, sefydlydd Ysgol Ramadeg Biwmares a oedd yn ragflaenydd i Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Rhagor o luniau o Eglwys Fair a Niclas, Biwmares.