Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-18

Yr Eisteddfod - Dydd Iau (2)

Carchar Biwmares

Carchar BiwmaresYn un o'r strydoedd cefn y saif Carchar Biwmares. O'r tu fas does dim byd cyffrous iawn am y lle, ond rhaid dweud fy mod wedi fy synnu cymaint y gwnes i fwynhau'r profiad o ymweld ag ef. Agorwyd y carchar yn yr 1820au, ac mae'n ymddangos ei fod yn 'top-of-the-range' ar y pryd, wedi'i godi yn dilyn y syniadau diweddaraf am gynllunio carchardai. Y pensaer oedd Jospeh Aloysius Hansom, a ddaeth yn ewnog am ddyfeisio'r Hansom cab, ond a wnaeth ei fywoliaeth o bensaernïaeth. Mae'n rhaid ei fod wedi costio tipyn i'w godi hefyd, ond yn rhyfeddol ni fu mewn defnydd ond am ryw hanner can mlynedd gan gau yn 1878 a'i newid i fod yn orsaf i'r heddlu.

Ffrâm chwipio, Carchar BiwmaresEfallai bod yr adeilad ei hun wedi'i godi i'r cynlluniau diweddaraf, ond roedd y regime oddi fewn yn perthyn i'r hen ysgol - y ffrâm chwipio, maglau, y droell gosbi, a'r crocbren, wrth gwrs. Yn ôl yr hanes crogwyd dau yn ystod cyfnod y lle fel carchar. Yn 1830 dienyddiwyd William Griffith am geisio lladd un o'i ddwy wraig, ac yn 1862 crogwyd Richard Rowlands am lofruddio'i dad-yng-nghyfraith. Aeth Rowlands i'w farwolaeth gan daeru ei fod yn ddi-euog. Ym mhob twll a chornel roedd 'na rywbeth diddorol i'w weld. Yr hyn oedd yn taro dyn fwyaf oedd fod pobol yn cael eu cadw yn y fath amgylchiadau ac yn dioddef y fath driniaeth dim ond ychydig dros ganrif yn ôl - a hynny ar Ynys Môn fel pobman arall!

Rhagor o luniau o Garchar Biwmares.