Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Gwener (6)

Cinio gyda Beti Williams AS

Beti Williams AS yn yr EisteddfodDim coginio heno, ond yn hytrach swper yn un o'r neuaddau bwyd ar faes y brifwyl er mwyn gadael i'r torfeydd ymadael. Roedd IwJ wedi mynd yn ôl Aberystwyth yn y bore ac roedd DJP yn aros i gystadlu yn yr eisteddfod gyda Chôr ABC. Wrth i RO, DML a finnau fynd at ein bwyd roedd 'na gyffro yn y babell pan ddaeth Beti Williams AS a'i hentourage i mewn. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi treulio tipyn o amser i weld beth roedd hi yn ei wneud. Yn anffodus mae'n rhaid imi adrodd na wnaeth ddim mas o'r cyffredin yn fwy na bwyta ei swper fel pawb arall. Gwelodd RO rywun pwysig arall yn y lle bwyd, ei gefnder sy'n gynghorydd yn Sir Fôn. Ac RO ei hun yn gynghorydd a DML yn brif weithredwr mudiad pwysig, roeddwn i'n teimlo yn ddigon di-bwys a diddylanwad. Ond dwi'n dal i freuddwydio am y diwrnod y bydda i'n sefyll ar y maen llog (plastig!) ac yn datgan fy rhagfarnau i'r pedwar gwynt yn wyneb haul ac yn llygad goleuni.