Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Gwener (5)

Y gadair a'r "Cyfansoddiadau"

Gwerthu'r Felly fe aeth y gadair i Tudur Dylan Jones. Bob tro bydda i'n gweld y seremoni dwi'n dyheu am wneud y gamp, ond bob tro bydda i'n edrych ar Anghenion y gynghanedd gan Alan Llwyd neu Clywed cynghanedd Myrddin ap Dafydd dwi'n digalonni. Dwi am ennill y gadair er mwyn bod yn Archdderwydd, er bod pawb yn dweud y dylwn i fynd am rywbeth sydd efallai yn fwy o fewn fy ngafel fel y fedal ryddiaith. Ond fel dwi'n dweud dyw derwyddon go iawn ddim yn ysgrifennu rhyddiaith - cynghanedd gyflawn neu ddim yw hi!

Roeddwn i wedi hanner gobeithio y buasai DJP wedi mynd am y gadair, ond nid dyna fel y bu. Roedd yntau wedi mynd am y goron, ond doedd hi ddim i fod iddo fe eleni. Buaswn i'n siomedig iawn petai hynny wedi digwydd i fi, ond fel roeddwn i'n ceisio esbonio iddo roedd y ffaith nad oedd e wedi ennill yn golgyu ei fod wedi cael ei swper yn ffres yn hytrach na wedi ei ail-dwymo yn y microdon. Felly mae 'na lenin arian i bob cwmwl tywyll fel dywed yr hen ddihareb Seisnig.

GorseddogionUnwaith y caiff enw bardd y gadair ei gyhoeddi mae'n ras wedyn i werthu'r cyfansoddiadau. Gan fy mod i'n eistedd y tu fas i stondin y Cyngor Llyfrau dyna lle gefais i fy nghopi i. A'r peth cyntaf dwi'n ei wneud yw mynd trwy'r rhestr yn y tu blaen i weld a oes 'na rywun dwi yn ei 'nabod wedi ennill rhywbeth ac edrych i weld ble mae rhai o enwogion ein cenedl yn byw - mae'n ddifyr iawn pa enwau mae rhai ohonyn nhw yn dewis rhoi ar eu cartrefi. Maen nhw fel arfer yn debyg i'r enwau roedd plant gweinidogion yn cael slawer dydd neu blant y cyfryngau heddiw - enwau egsotig o Gymreig allan o lyfr Meic Stephens Welsh names for your children neu Heini Gruffudd Enwau Cymraeg i blant = Welsh names for children.

Dwi'n credu taw yn llyfr Heini Gruffudd y gwelais i'r enw Cymraeg mwyaf ofnadwy y gallai rhieni ddamnio eu plentyn gydag ef sef Pasgen ar gyfer merch sy'n cael ei geni yn nhymor y Pasg. Dylai enw o'r fath fod รข rhybudd mawr coch yn ei erbyn yn hytrach na chael ei hwtran fel enw posib ar blentyn mewn llyfr o wasg gydnabyddiedig gan awdur cydnabyddiedig. Druan o'r plentyn hwnnw! Pasgen-Casgen!