Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Gwener (7)

Mae gen i gyfeillion diwylliedig!

Darllen y Yn lle mynd yn ôl i Ffriddoedd yn syth fe alwon ni heibio i dafarn yr Antelope ger Pont Menai. A fan'no dyma DML yn tynnu mas y 'Cyfansoddiadau' a dechrau ei ddarllen a dyma RO yn ymuno ag ef. Roeddwn i'n falch i fod yn Gymro ac roeddwn i'n gobeithio fod pawb o ardal Lerpwl oedd yn y tafarn yr un pryd â ni yn sylweddoli mor freintiedig oedden nhw i weld y fath ddiwylliant. Wedi rhywbeth i yfed dyma'r tri ohonom yn mynd am dro i lawr i Bont Menai i weld y gwaith oedd yn digwydd ar y bont.

Pont Menai

Rhagor o luniau o Bont Menai, neu Bont y Borth, yn cael ei thrin.