Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Gwener (4)

Ystafelloedd croeso

Ystafell groeso y Cyngor LlyfrauDwi'n siŵr fod y byd a'i bartner yn cael mynd i mewn iddyn nhw, ond i fi mae cael mynd i 'ystafelloedd croeso' y gwahanol sefydliadau ar faes yr eisteddfod yn gwneud imi deimlo'n bwysig ac yn ddylanwadol. Y lle sy'n gwneud imi deimlo'n fwyaf pwysig o bob man yw ystafell groeso y Cyngor Llyfrau. Ac fe ges i dreulio peth o'r prynhawn yn y fangre arbennig honno. Roedd y croeso yn dwymgalon mewn coffi a sgwas a bisgedi. Fe wnes i wario rhyw £30 ar lyfrau ar y stondin hefyd! Ar ôl peth amser dyma fynd mas i eistedd o flaen y stondin a gwylio'r byd yn mynd heibio. Ac o fewn rhyw ddeng munud i gwarter awr roedd y byd wedi mynd heibio yn bob lliw a llun - pob un yn brysio i rywle neu'i gilydd.

I weld beth aeth heibio i stondin y Cyngor Llyfrau rhwng 15:26 ac 15:36 ddydd Gwener 2005-08-05. Mae'n werth edrych ar y peth fel sioe sleidiau i gael yr effaith yn llawn.