Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Gwener (3)

Pen blwydd hapus, Plaid Cymru!

Ieuan Wyn Jones!Un o'r stondinau imi alw heibio iddynt ar y maes oedd stondin Plaid Cymru. Roedd hi'n werth y drafferth er mwyn gweld aderyn prin iawn, sef arweinydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, Ieuan Wyn Jones. Roeddwn i'n meddwl fod rhywbeth wedi digwydd iddo er misoedd bellach gan nad ydym byth yn ei weld. Roedd yn rhaid imi dynnu llun i brofi i bobl eraill ei fod yn bodoli. Gobeithio'n wir y bydd rhywbeth yn digwydd iddo yn y misoed nesaf neu fe fydd hi wedi canu ar Blaid Cymru ar gyfer yr etholiadau nesaf eto!

Cacen pen blwydd Plaid CymruYn wahanol i ffotograffwyr proffesiynol fel Marian Delyth roeddwn i'n hwyr ar gyfer cychwyn y parti pen blwydd ac felly pan ges i gyfle i dynnu llun o'r gacen roedd hanner ohoni wedi diflannu a'r cyfan oedd ar ôl oedd y gair 'Hapus', gair nad ydyw i'n cysylltu mor barod â hynny gyda Phlaid Cymru y dyddiau hyn. Ond mae pethau'n siŵr o newid, on'd ydyn nhw? Wrth ddarllen am ddechreuadau Plaid Cymru mae'n syndod iddi barhau cyhyd. Ar hyn o bryd dwi'n credu ein bod yn ei chael hi'n anodd i ddod i delerau yn iawn gyda'r mesur annigonol o ddatganoli sydd wedi dod i Gymru, ond bydd rhaid gwneud os ydym am symud ymlaen. Ond ni fydd pethau'n hawdd.