Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Gwener (2)

Media tart

Stondin S4CMan a man i mi fod yn onest, y rheswm yr es i i'r Eisteddfod heddiw oedd er mwyn cymryd rhan mewn trafodaeth ym mhabell S4C ar y maes. Drwy'r wythnos maen nhw wedi bod yn trefnu trafodaeth awr ginio yn edrych yn ôl ar y flwyddyn mewn gwahanol feysydd. Heddiw roedden nhw'n edrych yn ôl ar deledu. Doeddwn i ddim yn gwybod beth yn gywir i'w ddisgwyl. Ffoniodd rhywun o S4C yn gofyn i mi enwi fy uchafbwyntiau am y flwyddyn. Gan fy mod i'n deuddol o gredu taw gwneud pethau gwael yn dda yw prif allu y cyfrwng roedd hi'n anodd imi feddwl yn llawer uwch na Cinio caru, Wythnos deyrnged Margaret Williams a Risg gyda Siân Lloyd. Dwi'n ofni taw yn yr ysbryd hwnnw yr es i at fy ngwaith. Yn gwmni imi ar y panel roedd dwy oedd yn cymryd y cyfan yn fwy difrifol, efallai am eu bod yn gweithio o fewn i'r diwydiant. Fel un sy'n gweithio mewn llyfrgell dwi'n gwybod sut maen nhw'n teimlo, gan fod pawb yn dueddol o gymryd llyfrgelloedd yn ysgafn ond i ni yn y diwydiant mae'n waith difrifiol iawn. Dwi ddim yn rhy siŵr sut aeth y drafodaeth, dwi'n credu imi fod ychydig yn rhy afresymol, ond roedd hynny'n gymaint o demtasiwn gan fod pawb arall yn bod yn arbennig o resymol.

Corlan fwyd ar y maesWedi'r sesiwn yn S4C fe es i gael cinio gyda MWR ac Elwyn. Aethon ni i un o'r corlannau bwyd. Roedd y lle yn orlawn a bu'n rhaid inni fwyta'n cinio ar ein traed. Diolch byth daeth hanner bwrdd yn rhydd inni gael bwyta ein crempogau mewn ychydig gyfforddusrwydd. Os oes yn rhaid cael bar ar y maes dwi'n credu ei bod hi'n ddwl ei roi wrth y gorlan fwyd er mwyn i lymeitwyr gymryd cymaint o seddi a byrddau dim ond er mwyn yfed a'r gweddill ohonom yn gorfod sefyll ar ein traed.