Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-30

Presbyteriaid, Torrone a Ricky Ponting

Pwll-cenawon, Capel BangorFel arfer os ydych chi'n mwynhau eich hun mae'r amser yn diflannu. Roedd 'na un peth arall roeddwn i am fynd i'w weld sef y fan lle ganwyd Lewis Edwards (1809-1887) sef Pwllcenawon yng Nghapel Bangor. Nawr dyma ddyn y bu ei ddylanwad yn fawr iawn ar Gymru wrth fod yn brifathro Coleg y Bala am hanner can mlynedd - yn paratoi ymgweiswyr i weinidogaeth yr Eglwys Fethodistaidd Galfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ond yn wahanol i Lewis Morris prin yw'r gweithiau bywgraffyddol amdano heddiw. Saif cerflun ohono y tu fas i Gapel Penllwyn, Capel Bangor.

Torrone o Sardigna yn fflat DJPWedyn yn ôl i Lanbadarn Fawr a mentro galw i weld DJP oedd newydd ddychwelyd o'i wyliau yn Sardigna. Nid oeddem wedi galw ar awr rhy dda, roedd ei feddwl i gyd ar y criced oedd ar y teledu - y pedwerydd prawf ac Awstralia bron â cholli, a Lloegr bron ag ennill a mynd ar y blaen o 2-1. Bu DJP yn hynod o amyneddgar gyda ni. Yn garedig iawn roedd wedi dod ag anrheg o torrone neu nougat cartref inni. Cafodd RO y gwaith o dorri'r torrone. Gwaith anodd ond yn y diwedd fe lwyddodd gyda phawb yn cael eu darn o'r dantaith egsotig o ardal Môr Canoldir. Ac ar ôl helpu DJP i ddod i delerau gyda'r canlyniad adre â ni i gysgu'n dawel tan y bore - bore Gŵyl y Banc!

Torrone yn llaw Dogfael a chriced ar y teledu yn fflat DJP

I weld holl luniau'r diwrnod o daith i Gwmsymlog a thu hwnt.

Dyma'r daith wnaethom ni ei dilyn i Gwmsymlog a thu hwnt.

Tagiau Technorati: | | .