Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-30

Goginan ac Allfadog

GoginanMae'n rhyfedd pa mor wahanol fuasai Cymru o fod yn genedl normal. Roeddwn i'n sylwi ychdydig yn ôl y gallasai Rhosgadfan fod yn Wlad Te yn y Grug, fel mae rhannau o swydd Gaerefrog yn 'Brontë Country'. Mae'n ddigon posib wedyn y gallai'r ardal hon gael ei gwerthu yn rhannol fel Gwlad Lewis Morris a denu'r miloedd. Ond oherwydd nad ydyn ni'n genedl normal, ond yn wlad wedi'i choncro yn plygu glin i ddiwylliant arall yn hawdd, does neb ond rhyw ddyrnaid bach o anoraciaid sy'n gwybod pwy oedd Lewis Morris a'i frodyr rhyfeddol

AlltfadogDoes gen i ddim mor wybodaeth na'r gofod i olrhain holl alluoedd y polumath hwn o Fôn. Ond roedd Lewis Morris, neu, Llywelyn Ddu o Fôn (1701-1765) gyda'r mwyaf diddorol (ar ôl Dafydd ap Gwilym, efallai!) i fyw yn yr ardal hon. Symudodd i'r ardal yn 1742 yn swyddog y goron yn ceisio amddiffyn hawl y brenin i blwm yr ardal yn erbyn y Cardis lleol oedd am gymryd y cyfan iddynt eu hunain. Golygodd hyn y bu gweddill bywyd Lewis Morris yn un helbul ar ôl y llall. Roedd yn fapiwr a syrfewr heb ei ail ac yn wladgarwr a bardd. Bu'n byw yn Allfadog a Phenbryn ac fe'i claddwyd yn Eglwys Llanbadarn Fawr. Aethom heibio i Alltfadog i weld y gofeb fechan a osodwyd yno - doedd dim sôn am y gofeb ond fe welson ni'r tŷ a theimlo ein bod wedi dod i ryw fath o gysylltiad â'r gorffennol felly.

Dwi'n credu ei bod hi'n fesur o fawredd y dyn fod cynifer o lyfrau amdano. Yn ddiweddar cyhoeddwyd bywgraffiad llenyddol, Lewis Morris gan Alun R. Jones. Ond yn y gorffennol fe gafwydd Y Llew a'i deulu gan Tegwyn Jones (1982), gyfrol gan Dafydd Wyn Wiliam (1997, 2001) a chyfrol gan David Bick a Philip Wyn Davies, Lewis Morris and the Cardiganshire mines (1994). Dyna'r llyfrau dwi'n ymwybodol ohonynt, mae'n siwr fod llawer mwy. A hynny pan nad oes fennym ni'r un bywgraffiad ar gyfer cymaint o'n pobol amlwg.

Os ydych chi'n teimlo fel ymuno â'r anoraciaid eraill sy'n dwli ar Lewis a'i frodyr yna fe allwch ymuno â Chymdeithas Morrisiad Môn.

Tagiau Technorati: | | .