Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-30

O Aberystwyth i Abertawe mewn naw awr a chwarter 2005-08-09

Gorsaf Aberystwyth, 5.00amFy anrheg pen blwydd i fi fy hunan oedd y peth i fod wythnos ar ôl yr eisteddfod, ond fe droes yn hunllef. Roeddwn i'n mynd i gynhadledd yn Abertawe gyda fy ngwaith ond yn lle gofyn am lifft neu fynd ar y bws, fe benderfynais y buasai'n hyfryd o beth i gael trît i ddathlu fy mhen blwydd a theithio ar y trên trwy'r canolbarth, o Amwythig i Abertawe. Roedd e'n swnio'n syniad da ar y pryd. Erbyn y diwedd roeddwn i'n casáu Arriva Trains Wales gyda chas perffaith ac yn amau a fuaswn i byth yn teithio ar eu trenau hwy byth eto. Roedd hynny'n beth dwl i'w feddwl gan taw dyna'r unig gwmni trenau sy'n gwasanaethu Aberystwyth, ond pan fydda i wedi dweud fy stori fe fydd pawb yn deall fy nwli.

Cyrraedd AmwythigEr mwyn cyrraedd Amwythig mewn amser i ddal y tren a fyddai'n cyrraedd Abertawe mewn amser byddai'n rhaid imi adael Aberystwyth ar y trên 5.17am. Popeth yn iawn, roedd y daith yn mynd i fod yn sbort ac yn sbri. Doeddwn i ddim wedi teithio ar y lein hon ers ugain mlynedd a mwy. Nawr dyma fy nghyfle i fynd ar un o'r llinellau rheilffordd prydferthaf yn y byd. Felly dyma fi ar orsaf Aberystwyth erbyn rhyw 5.10am er mwyn gwneud yn siŵr 'mod i'n dal y trên. Y daith o Aberystwyth i Amwythig oedd y mwyaf didrafferth!

Roeddwn i'n teithio ar drên nad oeddwn i wedi'i weld o'r blaen - trên y Western mail - fel arfer trên pastai Ginsters sy'n mynd a dod i Aberystwyth. Roeddwn i yng ngorsaf Amwythig erbyn rhyw 7.00am gan adael bron i ddwy awr i aros am y trên i Abertawe. Ond doedd hynny ddim yn broblem, roeddwn i'n mwynhau fy hunan. Treulais i'r ddwy awr yn darllen papur newydd yn y Lemon Tree - y caffi yn yr orsaf. Gadawodd trên y canolbarth am Abertawe ar amser, sy'n fwy na ellir dweud am fwy nag un o drenau Arriva.

Gorsaf TrefycloRoedd popeth yn ymddangos yn iawn wrth inni fynd drwy Swydd Amwythig a chroesi'r ffin i mewn i Gymru yn Nhrefyclo. Yna dros traphont Cnwclas ac ymlaen am Landrindod a de Powys. Popeth yn ymddangos yn iawn hyd nes cyrraedd Llanwrtyd. Yn sydyn dyma'r trên yn stopio ac yn aros yn stond am bum munud, heb neb yn rhyw siŵr iawn beth oedd yn digwydd. Ar ddiwedd y disgwyl ofnus fe ddaeth un o'r staff o gwmpas gan ddweud y buasai'n rhaid inni adael y trên a chroesi'r lein i ddal y trên oedd yn dod i fyny o'r de gan fod y trenau yn mynd i ddychwelyd o'r lle ddaethon nhw. Yr hyn na ddywedwyd ar unwaith oedd fod y trên o'r de hanner awr yn hwyr. Wrth lolian o gwmpas gorsaf Llanwrtyd fe aeth yr hanner awr yn ddeugain munud - ac erbyn y diwedd roedd y trên dri chwarter awr yn hwyr.

Trên y canolbarth yng ngorsaf LlanwrtydPan gyrhaeddodd y trên o'r de dyma ni i gyd yn mynd arno. Ond roedd yn orlawn gan nad oedd y bobol oedd yn dod o'r de yn gwybod eu bod nhw i adael y trên a mynd ar y trên yr oeddem ni newydd (!) gyrraedd arno. Fe gymerodd hi ddeng munud i sorto hynny i gyd mas. Roedd pawb yn dechrau danto erbyn hyn a ffydd pawb yn y gwasanaeth trenau yn dechrau pylu. Ond roedd pawb yn cysuro'u hunain na allai pethau fynd yn waeth. O'r fath ddiniweidrwydd!

Tagiau Technorati: | .