Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-30

Parhau'r daith i Abertawe 2005-08-09

Ger LlanymddyfriAnodd credu ein bod wedi bod mor ddiniwed wrth sefyll gyda'n gilydd yn disgwyl am y trên na allai pethau fynd yn waeth. Dechreuodd rhyw ddyn o lannau Merswy siarad gyda mi (nid er mwyn mynegi barn a ddylai'r eisteddfod genedlaethol fynd i Lerpwl yn 2007) ond i ddweud ei fod wedi bod yn gwneud y daith oddi yno i Hendy-gwyn ar y trên hwn bob deufis am yn agos i bum mlynedd. Roedd popeth wedi mynd yn iawn am y tair blynedd gyntaf, ond ers rhyw ddwy flynedd roedd popeth yn dechrau mynd o'i le. Fe geisiais i godi ei galon gydag hanes trenau Fflandrys a'r Iseldiroedd - mae hi yn bosib rhedeg gwasanaeth trenau effeithol ar amser am bris rhesymol, felly ni ddylen ni ddigalonni.

Gorsaf LlandeiloO'r diwedd roedden ni ar ein ffordd i'r de. Ar y daith o Lanwrtyd i Lanymddyfri a Llandeilo roedd yr honiad ein bod yn teithio ar hyd o linellau prydferthaf Ewrop yn ymddangos yn wir iawn. Wrth inni ddisgyn lawr i ddyffryn Tywi roedd y golygfeydd yn wych. Heibio i Lanfair-ar-y-bryn ac i Lanymddyfri a Llandeilo. Efallai fod y golygfeydd yn wych, ond mae'n rhaid ein bod yn gweld rhai o'r gorsafoedd mwyaf di-enaid yn Ewrop hefyd. Mae'n anodd gen i gredu fod Romania yn ystod teyrnasiad Nicolae Ceauşescu neu Karl Marx Stadt yn amser Erich Honecker wedi bod mor goncritaidd foel â gorsaf Llaneilo. Diolch byth fod blodau yn medru byw yn y fath agylchedd anghynnes!

Tu fas i orsaf LlanelliO'r diwedd dyma ddod at Lanelli. Roedd y trên yn dal i fod rhyw dri chwarter awr yn hwyr a finnau dechrau poeni am golli sesiynau cyntaf y gynhadledd. Wrth gyrraedd gorsaf Llanelli fe deimlodd pawb fod rhywbeth yn bod. Dyma'r trên jyst yn aros yn yr orsaf, ond neb yn dweud dim. Yna yn raddol dyma'r si yn mynd o gwmpas ei bod yn rhaid inni adael y trên a dal un arall i mewn i Abertawe. Wedi cael pawb oddi ar y trên dyma gyhoeddiad arall - ni fyddai trên yn mynd i Abertawe wedi'r cwbl, ond yn hytrach roedd yn rhaid inni gael bws. Yn anffodus, roedd y cwmni bysus roedd Arriva yn ei defnyddio yng Ngharfyrddin ac fe fyddai'n rhaid inni ddisgwyl i'r bws ddod o Gaerfyrddin cyn mynd ymlaen â'n taith. Roedd pethau wedi mynd yn waeth.

Y bws yn cyrraedd gorsaf Abertawe!Ond roedden nhw mynd i fynd yn waeth fyth mewn eiliad. Dyna'r pryd ddechreuais i sylweddoli y byddai'n rhaid imi fynd i'r tŷ bach. Felly i ffwrdd â fi i'r tai bach ar yr orsaf - wedi'u cloi. Mynd i geisio gair gyda rheolwr yr osaf. Na, ni fyddai'r tai bach ar yr orsaf yn cael eu hagor bellach gan fod gorsaf Llanelli wedi'i dynodi yn orsaf wedi'i chau. Gweld drws y trên ar agor a cheisio rhyddhad yno - rheolau iechyd a diogelwch yn dweud 'na' y tro hwn. Yn ôl at reolwr yr orsaf, doedd dim gobaith. Felly beth oeddwn i i'w wneud. Allwn i fentro mynd i chwilio am dŷ bach a cholli'r bws. Yn y diwedd daeth y galw am dŷ bach yn fwy na'm dymuniad i gyrraedd Abertawe mewn amser. Felly i ffwrdd â fi gyda fy nghês a'm bag. O'r diwedd dyma ddod o hyd i dafarn. Mae'n rhyw hanner awr wedi un y prynhawn, dwi'n chwys stecs a dyma fi'n cerdded mewn i dafarn yn Llanelli gyda fy nghês a'm bag ac mae pawb yn edrych arna i. Prynu peint o Diet Coke, a phawb yn edrych arna i fwy a gofyn mor dawel y gallwn ble'r oedd y toiledau. Wrth gwrs roedd 'na esbonia cymhleth iawn, ond yn y diwedd fe lwyddais i ddod o hyd iddynt a theimlo rhyddid. Pan gyrhaeddais i 'nôl i'r orsaf doedd neb na dim wedi symud. Roeddwn i'n grac, roedd pawb arall yn grac. Ond diolch byth fe gafodd pawb y gras i beidio ag ymosod yn eiriol ar y staff gan wybod fod y bai yn mynd yn uwch ac yn bellach.

Y tŷ bach ym Mhrifysgol AbertaweO'r diwedd fe ddaeth y bws i'n cludo i Abertawe. Roedd y trên fod gyrraedd Abertawe am 12.55pm. Pan osododd y bws ni lawr tu fas i'r orsaf, roedd hi'n 2.35pm. Wedi cael tacsi allan i'r campws yn Singleton, roedd hi bron yn dri o'r gloch a finnau wedi colli y seisynau cyntaf. Ond fe gefais amser i chwilio am yr ystafell lle'r oeddwn yn aros. A sicrhau fy hun fod 'na dolied yno. Wedi uffern Llanelli dwi'n gwybod bod yn rhaid inni werthfawrogi pethau o'r fath. I ddweud y gwir roedd yn hynod o lân ac yn groesawgar. Efallai taw dyna'r anrheg pen blwydd perffaith wedi'r cwbl - nid y daith i lawr, ond y sicrwydd o doiled ar ei diwedd.

Yr holl luniau o'r daith fythgofiadwy o Aberystwyth i Abertawe 2005-08-09.

Tagiau Technorati: | | .