Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-10

'Nôl o Fangor a bant i Abertawe

Y teulu bach yn y gegin glyd, Ffriddoedd, BangorMae'n rhaid fod pobol yn meddwl fod rhywbeth wedi digwydd imi. Des i 'nôl o Fangor a'r Eisteddfod Genedlaethol ac o fewn diwrnod yr oeddwn ar fy ffordd i Abertawe i gynhadledd ar hanes ffotograffiaeth. Cefais amser gwych ym Mangor ac mae gen i gannoedd o ffotgraffau o'r hyn welais i yno. Dwi'n mynd i adrodd yr hanes cyn gynted â phosib, ond dwi ddim yn mynd i lwyddo i wneud hynny am ychydig ddiwrnodau. Yn y cyfamser bydd gen i ddigon o bethau i'w hadrodd o'r daith i Abertawe.

Siop Morrisons, BangorDes i lawr ddoed ar y trên o Aberystwyth. Gallen i fod wedi cael lifft, neu fynd gyda'r bws, ond fel trît haf dyma benderfynu cymryd y trên trwy'r canolbarth - Trefyclawdd, Llandrindod, Llanymddyfri, Rhydaman, Llanelli, Abertawe. Roedd y golygfeydd yn wych, ond fe wnes i gyrraedd Abertawe dros awr a hanner yn hwyr! Mae'r hanes yn un trawmatig iawn a rhaid cael lluniau i'w ddweud yn iawn. Dwi ddim yn gwybod beth dwi'n mynd i'w wneud ar y ffordd 'nôl, ai rhoi cyfle arall i Arriva Trains Wales, ynteu rhywbeth arall!