Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-30

O'r diwedd

Popeth wedi'i bacio, popeth wedi'i lanhau, popeth wedi'i dacluso. A nawr dwi'n barod i fynd i Fangor. Mae'n 12.30pm a dwi'n disgwyl RO i roi lifft i mi. Does dim byd arall galla' i ei ddweud ond fy mod yn edrych ymlaen yn fawr iawn a dwi'n gwybod fy mod yn mynd i fod yn gartrefol gan fy mod wedi mynd â phopeth ond sinc y gegin gyda fi i Fangor. Tywydd braf a dim traffig gwyllt a bydda i'n hapus. Dwi'n bwriadu mynd i'r eisteddfod ei hun ddydd Gwener. Bydd hynny'n ddigon! Ond dwi yn mynd i fwynhau'r awyrgylch a'r gwmnïaeth hyfryd yn y llety.