Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-30

I Gwmerfyn, Goginan a thu hwnt

CwmerfynDim ond dros yr wythnosau diwethaf yr ydw i wedi dod i sylweddoli cymaint o amrywiaeth tirwedd sydd o fewn ychydig filltiroedd i Aberystwyth. Dim ond gadael y dref a throi tua'r cymmoedd culion hir sy'n ymwestyn i fyny i'r mynyddoedd sydd angen ei wneud, ac rydych chi mewn gwlad, os nad byd gwahanol iawn. Felly'r ardal yma o gwmpas Cwmsymlog, Cwmerfyn a Goginan. Wrth gwrs mae hyn yn cymaint i'w wneud â'r un sy'n edrych ag yw e gyda'r hyn a welir. Roeddwn i wedi bod yn y llefydd hyn o'r blaen, ond pan oeddwn i'n ifanc oedd hynny, a phan nad oedd gen i'r llygad na'r amynedd i werthfawrogi beth yr oeddwn yn ei weld yn iawn.

Agor yr iet ar y ffordd o Gwmerfyn i OginanO Gwmsymlog fe aethon ni'n ôl i lawr y cwm ac yna i fyny i Gwmerfyn. Roeddwn i wedi credu imi bregethu yn y capel bach yn Cwmsymlog, ond wrth weld capel y Presbyteriaid yng Nghwmerfyn dwi'n rhyw feddwl tan fan'ny fues i'n pregethu wedi'r cwbl. Heddiw mae wedi cau, ond roedd capel arall yn pentre bach hwn - Capel yr Annibynwyr - ac mae hwnnw yn dal i fod yn agored. Wrth y capel hwnnw dyma droi i ddilyn y ffordd i fyny drwy'r goedwig i Goginan.

Tagiau Technorati: | | .