Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-29

Does unman yn debyg i gartref

Clawdd ar y ffordd i GwmerfynDros yr wythnosau diwethaf dwi wedi dysgu nad oes unman yn debyg i gartref - Cymru a Cheredigion yn fy achos i. Dyna oedd y wers ar gyfer ddoe unwaith eto gydag RO yn ein cludo i ffwrdd i baradwys y mwyngloddiwr - ardal Cwmsymlog a Chwmerfyn! Wedi gwasanaeth y Cymun Bendigaid yn Eglwys S. Mair am 10.00am roedd RO wedi bwriadu inni fynd i ardal Machynlleth am ginio - 'dathlu' diwedd y gwyliau mewn ffordd o siarad. Ond wedi cinio roedd wedi addo dangos rhai o olion y mwyngloddio a fu yng ngogledd Ceredigion i ni. Oherwydd dydd Sadwrn roedd RO wedi mynd ar daith wedi'i threfnu gan Gymdeithas Mwyngloddiau Cymru i ardal Cwmsymlog.

Yn wahanol i ddydd Sul arferol roedd RO ei hun wedi cael ei hun mewn eglwys yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd cymuned yn Nhrefeurig. Roedd y gwasanaeth ecwmenaidd yn Eglwys S. Ioan, Penrhyn-coch yn cychwyn am 10.45am ac felly roedd hi'n 12.00pm erbyn i'r gwasanaeth a'r coffi ddod i ben. Roedd hynny'n rhy agos i amser cinio i ni fynd i Fachynlleth ac felly yn y pendraw dyma gael cinio yn Rhydypennau.


Tagiau Technorati: | .