Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-13

Yn ôl i'r Kunstberg

Cinio 2005-07-06Bore trannoeth roeddem ni'n gadael y gwesty yn gynnar unwaith eto i fynd i gyfarfod yn yr Amgueddfeydd Ceflyddyd Gain ar y Kunstberg. Nid oeddem cweit mor gynnar â'r diwrnod cynt, ond rydw i'n hoffi bod yn rhywle mewn digon o bryd fel nad oes angen poeni am hynny ymhlith yr holl bethau eraill sydd yno i boeni amdanynt cyn ac yn ystod cyfarfod. Ar y tanddaearol unwaith eto - trenau go iawn y tro hwn, yn hytrach na thramiau - o Anneesens hyd at Munthof ac yna newid fan'ny ar gyfer Park. Yna cerdded ar hyd ochor y parc sy'n rhwng y senedd ffederal a'r palas brenhinol nes cyrraedd yr amgueddfeydd. Parhaodd y cyfarfod am y bore ond erbyn amser cinio roeddem yn rhydd. Roeddwn wedi gweld fod 'na fwyty yn rhan o'r amgueddfeydd ac felly penderfynwyd mynd yno i gael cinio er mwyn dathlu ein bod wedi cwblhau ein tasgau yn llwyddiannus.

Cinio 2005-07-06Roedd y bwyty mewn hen westy ar y Koningsplein, y sgwâr brenhinol, gyferbyn ag Eglwys Sint-Jakob op Koudenberg. Ei enw oedd y Museum Café ac roedd yn cynnig dewis o brydau blasus. Roedd hi'n amlwg ei fod yn lle da gan fod y bwyty a'r cafe yn orlawn amser cinio. Roedd hynny â chanlyniad - bu'n rhaid aros yn hir am ein bwyd. Ond pan ddaeth y bwyd roedd yn flasus iawn iawn. Fe ges i gyri cyw iar gyda reis gyda wystrys ac fe gafodd RP eog gyda witlof, neu endive, llysieuyn 'cenedlaethol' Gwlad Belg. Maen nhw'n dweud taw Brwsel, y teulu brenhinol, y ddyled wladol a chariad at y witlof yw'r unig bethau sy'n cadw'r wladwriaeth ffederal at ei gilydd! Wedyn i bwdin waffel Felgaidd gyda hufen.