Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-13

Swper yn Lemmonierlaan, Brwsel

Caffi La Medina, BrwselRoedd hi'n amlwg oddi wrth fynd at y gwesty fod yr Stalingradlaan, Lemmonierlaan, a'r ardaloedd o gwmpas wedi dod yn gartref i nifer fawr o fewnfudwyr o ogledd Affrica, yn arbennig felly pobol o Forocco. Roedd degau o dai bwyta cyflym Moroccaidd o gwmpas yr ardal a dyna lle benderfynodd y ddau ohonom ni fynd i gael swper y noson honno. Roeddwn i wedi dewis Caffi La Medina am ei fod yn galw ei hun yn frituur, llke sglodion, ond wedi inni fynd i fewn roedd yn rhaid inni newid ein syniadau. Cawswom ein cyfarch mewn Ffrangeg a dyma ateb yn yr un modd a cheisio archebu slgodion gyda physgod a chyw iar. Nid oedd y perchennog yn fodlon o gwbwl i dderbyn ein harcheb, roedd e am roi rhywbeth arbennig inni, rhywbeth traddodiadol o Forocco. Felly er inni archebu sglodion yr hyn a gawsom yn y diwedd oedd tanjîn blasus - gyda chyw iar yn fy achos i, ond dwi'n ofni fod y cig a gafodd RP gyda'i danjîn yn dal i fod yn ddirgelwch. Dim alcohol yn y bwyty hwn oherwydd roedd hi'n amlwg ei fod yn gyrchfan i Fwslemiaid ifainc difrifol yr olwg - dynion i gyd.

Swper 2005-07-05Roedd y bwyd yn flasus iawn ac fe gafodd RP a finnau ein gyrru i gwtsh bach cyfforddus i fwyta. Roedd hi'n debyg iawn fel bod yn Casblanca dwi'n siwr - er nad wyf fi erioed wedi bod yno, wrth gwrs. Roedd hi'n dwym tu fas, ond roedd awel braf yn chwythu drwy'r cwtsh lle'r oedd y ddau ohonom yn eistedd. Ar ddiwedd y pryd diolchwyd yn hael i'r perchennog am fod mor ddoeth â dewis pryd gwell i ni na fuasem wedi ei ddewis drosom ein hunain. Roedd yn fodlon derbyn ein diolch. Yn ôl â ni wedyn i'r gwesty am dipyn cyn mynd allan i gael ychydig o gwrw Gwlad Belg yn nhafarn Le Saint D'Hic oedd yn agos i'r gwesty - cwrw Maes oer a'r gwydrau yn dod yn syth o'r oergell. Maen nhw'n gwybod sut mae gweini eu cwrw yma. Roedd y bar yn edrych yn ddigon cyfforddus a chroesawgar a phenderfynwyd taw dyna'r fan ar gyfer swper y nos canlynol.

Yr holl luniau o'r ail ddiwrnod yng Ngwlad Belg a'r Iseldiroedd.