Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-13

Awr neu ddwy o grwydro ym Mrwsel

Glaw ym MrwselRoedd hi'n ddiwedd y prynahwn ac felly roedd gennym awr neu ddwy i grwydro cyn bo'r siopau a'r caffis yn cau ym Mrwsel. Nid oedd gan RP na finnau lawer o syniad beth roeddem ni am ei wneud ac felly crwydro yn ddi-amcan fuodd y ddau ohonom. Roeddwn i am weld Senedd Ffladrysm, ond yn teimlo'n rhy hunan-ymwybodol (am unwaith!) i fynd at rywun yn y stryd a gofyn. Yn y diwedd dyma ni'n cael ein hunain ym Muntplein pan ddaeth storm o law. Wrth gysgodi o dan goeden tu fas i'r Koninklijke Muntschouwburg dyma ddyn du yn dod i gysgodi o dan y goeden gyda mi a dechrau siarad mewn Iseldireg. Fe siaradon ni mewn Iseldireg am ychydig. Wnaeth hi ddim cymryd llawer iddo ddyfalu nad Fflemingiad nag Iseldirwr mohonof. A dyma fe'n troi i'r Saesneg. Cafwyd sgwrs ddiddorol. Roedd e'n dod o Den Haag yn yr Iseldiroedd, ond roedd e wedi gadael y wlad honno i chwilio am waith ym Mrwsel oherwydd y cynnydd mewn hiliaeth yno. Dywedodd am ei brofiad o weld pobol yn troi yn ei erbyn dros nos oherwydd lliw ei groen. Ac wedi'r glaw beidio dyma fe'n mynd ar ei ffordd a mae'n sicr na fyddaf yn ei weld nac yn siarad gydag e byth eto.