Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-13

Yn ôl i Aberystwyth

Daeth y bore gyda mwy o newyddion am beth oedd wedi digwydd yn Llundain y diwrnod cynt. Roedd meddwl am deithio yn dor-calonnus, ond roedd yn rhaid gwneud. Cyrraedd yr orsaf mewn digon o amser ac ymadael am Lundain ar amser a chyrraedd yno cyn 09.30. Cael hi'n hawdd i fynd ar y trên tanddaearol i Euston. Yn anoddach i gael lle ar y trên 10.40 i Birmingham. Ond yn y diwedd yn cyrraedd Aberystwyth erbyn 15.30. Dim byd i'w ddweud yn sgil yr hyn ddigwyddodd. Pawb yn dawel ar y trenau, neb yn rhyw swnllyd iawn, pawb yn sylweddoli taw teithwyr cyffredin fel ni oedd wedi dioddef yn y bomio yn Llundain, teithwyr cyffredin.