Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-17

Gwibdaith i Bonterwyd

Heol rhwng Penrhyn-coch a PhendamHeb gar mae'r wlad y tu fas i Aberystwyth yn ddirgelwch imi bellach. Mae'n haws imi fynd i Frwsel neu Eindhoven nag yw hi i gyrraedd llecyn lai na deg milltir o'r dref. Wrth gwrs petawn yn seiclo neu'n fodlon cerdded mae'n debyg y buaswn yn cyrraedd yno rywbryd. Ond pan fo cyfaill yn cynnig gwibdaith fyddai wastad yn manteisio. Cyfaill caredig felly yw RO a holodd a fuaswn i am fynd lan i Bendam ryw noson ac yna ymlaen i Westy George Borrow, Ponterwyd am fwyd. Doedd dim eiliad o oedi yn fy ateb, ac felly wythnos yn ôl ar nos Sadwrn fe aethon ni lan i Bendam ac yna draw i Bonterwyd. Fe ddaeth DML gyda ni hefyd. Roedd y tywydd yn hyfryd ac fe allen ni weld y wlad o gwmpas yn eglur wrth inni ddringo i fyny o bentref Penrhyn-coch tuag at Bendam. Oedi am ychydig ger coedwig y Fenter Goedwigaeth cyn dringo i fyny ac i lawr i gyrraedd Gwesty George Borrow.

Roedd y profiad o fynd i Westy George Borrow yn ddigon diddorol. Yr hyn oedd yn fwyaf diddorol oedd cyn lleied o Gymraeg oedd i glywed yn y gwesty - dim ond ni i ddweud y gwir! Roedd mwy o Ffrangeg i'w glywed. Cefais i gregyn glas a sglodion fel swper ac roedd yn flasus dros ben. Yr unig gŵyn oedd gen i oedd nad oeddwn wedi cael bara er mwyn amsugno'r suddoedd hyfryd oedd wedi dod allan o'r cregyn!

Rhagor o luniau o'r daith i Bonterwyd trwy Bendam.