Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-13

Senedd Fflandrys - Vlaams Parlement

Senedd Fflandrys, Vlaams ParlementRoedd prynhawn ychwanegol felly ym Mrwsel ac amser i'w ladd. Felly fe benderfynodd RP a finnau i fynd i gyfeiriadau gwahanol. Roedd swyddfa dwrsitaidd yng ngorsaf Brussel-Zuid ac roedd hi'n hawdd gofyn fan'na am gyfeiriad Senedd Fflandrys. Felly i ffwrdd â fi am orsaf metro Madou ac i Leuvenselaan a chartref Senedd Fflandrys. Fel mae'n digwydd dyma ddod o hyd i ddrws yr ymwelwyr a mewn â fi, ac o fewn chwarter awr o ddangos fy mhasport roeddwn i'n eistedd yn oriel gyhoeddus y senedd yn gwrando ar ddadl ar ddarlledu cyhoeddus yn Fflandrys - openbaare omroep. Roeddwn i'n synnu fy mod yn deall unrhywbeth o gwbl, ond roeddwn i yn deall ychydig. Fe wnes i aros i wrando ar ryw awr o ddadl. Fe glywais arweinydd y blaid werdd Groen! Jos Stassen yn siarad a gweld Bart De Wever arweinydd plaid N-VA. Roeddwn i wedi cael fy nymuniad ac felly yn medru mynd adref yn ddyn hapus.

'Nôl yn y gwesty roedd y newyddion yn gwaethygu gyda'r sylwebyddion yn ofni y byddai nifer y lladdedigion yn codi'n sylweddol erbyn diwedd y dydd. Doedd yr un o'r ddau ohonom yn teimlo fel mynd allan ac felly wedi swper yn y gwesty yn syth i'r gwely er mwyn codi'n fore i ddal y trên cynnar i Lundain. Roedd hwnnw yn gadael am 08.13 ac roedd gofyn bod yn yr orsaf o leiaf awr ymlaen llaw oherwydd yr hyn oedd wedi digwydd.

Lluniau o'r pedwerydd diwrnod yng Ngwlad Belg a'r Iseldiroedd.