
Mae'r llun hwn o Fangor yn dyddio o 1845 ac yn dod o'r Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhan o Gasgliad Tirlun Cymru.
O'r diwedd mae'r amser wedi dod i feddwl o ddifrif am yr eisteddfod. Ddiwedd yr wythnos fe fyddwn ni'n cychwyn ar ein taith hir-ddisgwyliedig i'r "gogledd" er mwyn setlo ym Mangor am wythnos. Y tro diwethaf imi fod ym Mangor am gyfnod yn fwy na hanner diwrnod oedd yn 1978-1979 fel rhan o ymgyrch Undeb Myfyrwyr Colegau Bangor (neu, UMCB) am hawliau'r Gymraeg yn y Brifysgol. Roedd yn frwydr yn un yr oedd yn rhaid mynd i'r afael â hi, ac er iddi gael ei cholli mewn ffordd o siarad dwi'n cael yr argraff fod 'na ychydig fwy o siâp ar y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, fel yr ydym i'w galw erbyn hyn, nag sydd yn Aberystwyth. Wrth gwrs, mae'n ddigon posib taw rhith yw'r cyfan a bod sefyllfa Bangor cynddrwg ag Aberystwyth bob tamaid.

Felly dwi'n edrych 'mlaen i ddod i adnabod Bangor unwaith eto, neu i ddod i adnabod Bangor o'r newydd, gan ei bod hi'n bendant fod pethau wedi newid yno. Un peth sydd wedi hen ddiflannu yw'r enwog Caffi Deiniol - fe dreuliais i lawer o amser yno ddiwedd y 1970au. Diflannu hefyd wnaeth yr hen ysbyty C&A a chau wnaeth Coleg Bala-Bangor. Felly fe fydd digon i'w wneud wrth jyst gweld fydd sydd ar ôl o'r ddinas fel dwi'n ei chofio.