Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-24

Y fellten dechnolegeol yn fy nharo eto

Doeddwn i ddim yn meddwl fod y peth yn bosib, ond fe gefais fy nharo gan ddiffyg technolegol heddiw eto. Roeddwn i'n pregethu heno yn Eglwys S. Fair, Aberystwyth ac yn wahanol i'r arfer roeddwn i wedi ysgrifennu'n bregeth yn ystod yr wythnos, yn hytrach na meddwl amdani yn ystod yr wythnos a'i hysgrifennu cyn 6.00pm nos Sul. Ond wrth fynd i argraffu'r bregeth ar gyfer y gwasanaeth dyma rhwybeth yn digwydd i'r rhaglen, a rhyw fodd neu'i gilydd fe fethais yn deg â dod o hyd i'r bregeth yng nghrombil y peiriant. Pregeth oedd hi ar Jeremeia 7 lle mae'r proffwyd yn edrych ar yr hyn sydd yn dda ac yn ddrwg am grefydd, yn bennaf ar yr hyn oedd ddrwg yng nghrefydd Iddewig y 6ed ganrif CC. Yr un hen fai - dweud un peth a gwneud fel arall. Mynd i'r Deml i addoli Duw a chredu fydden nhw'n iawn o achos hynny er eu bod yn gormesi'r tlawd yn cam-weinyddu cyfiawnder ac ar ben y cwbl yn addoli duwiau heblaw am Iawe! Ond doedd dim sôn am y bregeth ac fe fu'n rhaid imi fynd i'r gwasanaeth gan obeithio y byddwn yn medru cofio'r pwyntiau pwysicaf a hynny heb fod yn rhy annealladwy i'r gynulleidfa. Yn y gwasaneth fe ddefnyddion ni'r Litani oherwydd yr amgylchiadau ar hyn o bryd. O ran pregethu fe aeth popeth yn weddol - diolch i'r cwrdd gweddi a gawsom cyn dechrau'r gwasanaeth i ofyn am gymorth yr Ysbryd yn ein haddoliad.