Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-23

Pethau'n mynd o chwith

Y dorf yng Nghanolfan Merched y Wawr, AberystwythHen gyngor a roddir i actorion sydd am gadw eu henwau da a pheidio cael eu rhoi yn y cysgod yw osgoi gweithio gydag anifeiliaid a phlant. Byddwn i am lunio rhyw fath o wireb gyngor gyfoes ar gyfer darlithwyr yn dilyn yr un patrwm, sef peidiwch â gweithio gyda thechnoleg ddigidol, sticwch gyda'r analog!

Dwi'n dweud hyn ar sail profiad nos Wener diwethaf yng Nghanolfan Merched y Wawr. Fel ffordd o geisio codi arian ar gyfer Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - ac mae angen arian arnyn nhw o hyd er bod y cyfryngau yn mynnu eu bod yn fudiad cyfoethog iawn erbyn hyn - fe wnes i addo traddodi darlith ar fy nhaith ddiweddar i Fflandrys a Gwlad Belg. Roeddwn am wneud hynny yn benodol i ddangos nad dim ond Cymru sy'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth ieithyddol ond ei fod yn gonsyrn i wledydd ar hyd a lled Ewrop a'r byd. Roeddwn hefyd am ddweud am daith gofiadwy a gefais i Fflandrys ac i ddadlau'r achos nad Gwlad Belg yw gwladwriaeth fwyaf diflas y byd, ond ei bod yn hytrach gyda'r mwyaf diddorol, yn enwedig i ni'r Cymry.


Ystrydebau Gwlad Belg - ydych chi'n eu hadnabod i gyd? Dyna ichi witlof (neu chicory), Kuifje (neu Tintin), Magritte, saxaphone, cwrw, siocled, cregyn gleision, bakelite, ac Eddie Merckx

Dewisais ryw 120 o ffotograffau ar gyfer y sioe sleidiau oedd yn mynd i fod yn ganolbwynt y ddarlith. Roeddwn yn mynd i ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf - MSPowerpoint - ar gyfer arddangos fe sleidiau. I wneud hynny rhaid wrth gyfrifiadur, gliniadur fel arfer, a thaflunydd data. Roedd hynny wedi'u darparu. Ond wrth baratoi'r sioe MSPowerpoint roeddwn yn cael y teimlad na fyddai popeth yn mynd yn iawn. Ac felly y bu. Roedd y gliniadur yn gweithio'n iawn ond doedd e ddim yn fodlon dweud gair wrthy taflunydd. Wedyn dyma'r taflunydd fel petai yn cael neges oddi wrth y gliniadur a dyma hwnnw fel petai'n penderfynu peidio â dangos dim byd.

Nid fi oedd wedi darparu'r cyfan ac felly roeddwn i'n teimlo'n ddiymadferth. Dwi'n gwybod nad ydw i'n sôn am y gwaith ond petai hyn yn digwydd yno fe fyddwn i'n ffonio rhywun i ddatrys y broblem. Ceisiodd HL ffonio AE, ond roedd yntau mas yn mwynhau ei hun gyda chyfeillion. Ac i ddweud y gwir doedd hi ddim yn ymddangos fel petai dim y gallai AE ei ddweud a fyddai'n gwneud iddo weithio 'ta beth. Daeth SH heibio a chynnig helpu. Erbyn hyn roeddwn i'n dechrau mynd i banig. Wrth gwrs doedd panico ddim yn mynd i helpu dim. Roedd yr ystafell yn edrych yn llawn - rhyw ugain oedd yno mewn gwirionedd - ond roeddwn i'n teimlo fod holl boblogaeth China yn edrych arna i yn ceisio penderfynu beth i'w wneud.

DML yn gorffwysDoedd gen i ddim wedi'i ysgrifennu ar bapur, camgymeriad dwi'n gwybod ond roeddwn i'n dibynnu'n llwyr ar y sleidiau. Beth oeddwn i'n mynd i'w wneud. Diolch byth fe gafodd HL a SH y gliniadur i weithio, ond doedd dim arall yn mynd i weithio. Felly dyma benderfynu mynd ati i ddarlithio gorau gallwn i gyda'r gliniadur yn rhyw fath o gofweinydd imi.

Yn raddol dyma ddechrau arni. Doedd pwynt bod yn ymddiheuriol, bant â'r cart a gwneud pethau yn fawr ac yn bendant ac ymddangos yn hyderus yn fy ngallu i ymdopi gyda diffyg taflunydd data, er fy mod bod yn ofni "marw" (yn theatrig) y tu fewn. Yn raddol dyma ddechrau cynhesu at y peth a chynnig rhyw gipolwg i'r dorf ar sgrîn y gliniadur. Yn y diwedd doedd pethau ddim yn drychineb ac fe wnaeth pawb fod yn garedig a dweud eu bod wedi mwynhau'r peth. Fe gefais y cyfle i ddangos fy hoff ffotograff o'r wibdaith bron â bod, sef DML yn profi'r gwely yn y gwesty yn Rollegem unwaith eto. A dwi'n gobeithio hefyd fy mod wedi llwyddo i ddangos fod Fflandrys a Gwlad Belg yn ddiddorol wedi'r cwbl.

Rhagor o luniau o'r noson yng nghanolfan Merched y Wawr.