
Sylwais i ar y poster hwn yn Aberaeron yn hysbysebu "Victory Party!" yn Llanwnnen. Yr hyn oedd yn fy ngoglais i oedd y syniad o gael "Victory Dog Show" a "Victory Duck Race". Yn anffodus dwi'n siŵr y bydd nifer go dda yn barod i ddawnsio yr Hôci-côci ar strydoedd Llanwnnen ac wedyn ymuno mewn cytgan o "Knees up Mother Brown!"