Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-27

Fy ngwaith cartref Iseldireg cyntaf

Mae e wedi mynd; fe wnes i anfon y peth yn y post heddiw - fy ngwaith cartref cyntaf ar fy nghwrs Iseldireg Nederlands voor anderstaligen. Bues i'n ofalus iawn wrth lenwi'r 7 ymarfer yn profi fy mod yn adnabod fy rhagenwau, berfau syml, a gwahanol ffurfiau'r fannod. Yn ogystal â hynny roedd 'na dri ymarfer i'w recordio ar gasét a'u danfon gyda'r gwaith cartref at fy nhiwtor yn Oostende. Fe wnes i ail-recordio yr ymarferion llafar ryw dair gwaith i gyd. Y tro cyntaf fe wnes i gamgymeriad; yr ail waith roeddwn i'n swnio fel petawn i'n trio'n rhy galed; y trydydd tro roedd y cyfan yn swnio'n weddol naturiol. Dwi ddim yn rhyw siŵr iawn pryd fydd y canlyniad yn dod yn ôl. Mae'n debyg y gallai fod yn disgwyl amdanaf wrth imi gyrraedd yn ôl o'r eisteddfod. Dyma ychydig frawddegau ichi.
Mijn naam is Dogfael. Ik kom uit Mynachlog-ddu. Ik woon in Aberystwyth. Ik ben geboren in Hwlffordd. Ik ben bibliothecaris.

Mijb zus is Mandy. Ze komt uit Mynachlog-ddu. Ze woont in Mynachlog-ddu. Ze is geboren in Hwlffordd. Ze is huisvrouw en moeder.
Dwi'n gobeithio eich bod yn deall y brawddegau hynny. Os ydych chi, yna fe fyddech chi'n siŵr o sgorio'n uchel yn y gwaith cartref cyntaf ar gyfer Nederlands voor anderstalingen. Beth am roi cynnig arni?