Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-12

Unwaith eto'n Fflandrys annwyl...

Gorsaf Waterloo Rhyngwladol, LlundainAr ôl ymweld â Fflandrys llai na deufis yn ôl dyma gyfle arall yn dod i fynd yno, a'r tro hyn gyda'r gwaith. Dwi wedi addunedu nad wyf yn sôn dim am waith ar y blog felly dim ond rhai sylwadau dethol fydd gen i am y daith. Fe ddechreuon ni mas yn gynnar fore Llun diwethaf (4 Gorffennaf) o Aberystwyth gyda thocyn Eurostar yn fy llaw a llond cês o ddogfennau diflas i'w darllen. Yn gwmni i mi roedd RP o Lanbedr Pont Steffan - diolch byth amdano a'i amynedd ar hyd y daith. Mae gan RP dipyn o ddiddordeb mewn trenau ac felly dyna oedd testun ein sgwrs am ran o'r daith - safon trafnidiaeth gyhoeddus yng ngwlwedydd Prydain o'i gymharu â gwledydd tir mawr Ewrop, yn arbennig felly Gwlad Belg. Roedd y daith i Birmingham heddiw yn esiampl wych o gyrraedd yn hwyr a cholli cysylltiad - wrth i'n trên Arriva ni gyrraedd gorsaf Birmingham New Street roedd y trên i Lundain yn gadael gan feddwl ei bod yn rhaid disgwyl am hanner awr a mwy am y trên nesaf. Dyma fi'n troi at RP a dweud na fyddai'r fath beth bydd yn digwydd yng Ngwlad Belg. Ychydig y gwyddem bryd hynny pa mor wir oedd y geiriau hynny.

RP ger y Manneken PisO'r diwedd dyma gyrraedd Euston a dal y trên tanddaearol i Waterloo Rhyngwladol. Fe aeth y rhan honno o'r daith yn gymharol ddidrafferth. Ac felly hefyd cael y tocynnau allan o'r peiriant hunan-arlwy. Roedd y wers a ddysgwyd ddeufis yn gynt wedi talu ffordd. Ar ôl cinio cyflym yn y Grand Café ar yr orsaf dyma baratoi i fynd ar y trên Eurostar. Roedd hwnnw'n gadael am 2.42pm ac yn cyrraedd Brwsel erbyn 6.02pm - 2 awr ac 20 munud o deithio gan fod Gwlad Belg awr o'n blaenau. Roeddwn wedi bwcio gwesty hefyd wrth fwcio'r tocyn trên, Floris Avenue ac mae'n debyg y dylwn i fod wedi ailfeddwl o weld taw cyfeiriad y gwesty oedd Stalingrad Avenue, Brwsel. Ond roedd popeth yn swnio'n iawn ar y pryd. Roedd y gwesty yn iawn, ond roedd e heb ei orffen. Yn f'ystafell i roedd 'na dâp masgio ar bob ffiting er mwyn y peintiwr, roedd y tap yn y sinc yn yr ystafell ymochli yn rhydd... ond roedd y gwelyau yn gyfforddus ac ar ôl i RP a minnau gerdded mewn i'r Grote Markt a chael pryd o fwyd yno a cherdded yn ôl roeddwn i'n barod i gysgu. Roedd yn rhaid mynd i'r gwely yn gymharol gynnar gan ei bod yn rhaid i ni godi'n gynnar drannoeth er mwyn dal y trên i Eindhoven.

Lluniau o'r diwrnod cyntaf yng Ngwlad Belg a'r Iseldiroedd.