Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-12

Mae'r trenau yma yn anhygoel

Ar y trênRoeddem wedi dweud y buasem ni yn Eindhoven yn ne'r Iseldiroedd eryn 9.30am. Roedd hynny'n golygu gadael Brwsel am 6.45am - cyn bod sôn am frecwast yn y gwesty. Lawr â ni i orsaf Brussel-Zuid, neu Bruxelles-Midi, i gael trên rhyngwladol i'r Iseldiroedd. Roeddem braidd yn nerfus gan fod yn rhaid newid dwywaith, unwaith yn Rossendal ac yna yn Breda cyn cyrraedd Eindhoven. Doedd dim angen i ni fod wedi poeni dim. Wrth gyrraedd Roosendaal y cyfan roedd yn rhaid inni ei wneud oedd croesi'r platfform i'r trên oedd yn disgwyl amdanom; ac felly yn yr un modd yn Breda. Ac roeddem yn cyrraedd Eindhoven ar amser ar gyfer ein cyfarfod.

Prifysgol Dechnegol EindhovenEindhoven yw cartref tîm pêl-droed PSV ac wrth gyrraedd y ddinas mewn trên rydych chi'n mynd heibio i'w stadiwm. Eindhoven hefyd yw pencadlys byd cwmni electroneg Philips, neu Koninklijke Philips Electronics N.V. i roi ei enw yn llawn. Mae cysylltiad agos wedi bod gyda'r ddinas ers sefydlu'r cwmni yn 1891, ond mae pethau yn newid gyda'r cwmni yn chwilio am farchnad lafur ratach. Roedd ein cyfarfod ni yn y brifysgol dechnegol, Technische Universiteit Eindhoven, prifysgol a sefydlwyd yn 1956 yn sgil y ffaith fod Philips yno. Roedd y campws yn edrych yn llewyrchus - dim ond rhyw chwarter milltir o'r orsaf reilffordd. Dwi'n ofni taw'r cyfan a welson ni o Eindhoven oedd y orsaf, y campws a'r ffordd rhwng y ddau le, ond roedd yn ddigon i roi'r argraff fod y lle yn braf iawn.

Yn y brifysgol fe gefais gyfle i ddefnyddio ychydig o Iseldireg a hynny'n llwyddiannus gyda un o'r gofalwyr oedd yn tacluso o gwmpas y lle wrth holi fy ffordd o gwmpas y campws. Roedd e â diddordeb mawr o ble roedden ni'n dod a phan esboniais i ein bod yn dod o Gymru dyma fe'n ceisio ei orau i siarad ein hiaith ni - "Ryan Giggs!" Cefais lwyddiant pellach gyda fy Iseldireg wrth ofyn am gael gweld un o weithwyr y llyfrgell yno. Dwi'n gwybod fod y pethau yma yn swnio'n fach ac yn bitw, a'u bod nhw'n fach ac yn bitw, ond i mi maen nhw'n fwy o fuddugoliaeth bersonol nag oedd Trafalgar!

Rhagor o luniau o Technische Universiteit Eindhoven.