Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-11

Cynhadledd Meithrin perthynas

Y gynulleidfaWythnos yn ôl i ddydd Sadwrn roedd y Cyngor Llyfrau wedi trefnu cynhadledd ar olygu creadigol yn Llety Parc, Parcyllyn, Llanbadarn Fawr. Diwrnod difyr o ddysgu sut mae awduron yn gweld eu perthynas gyda'u gweisg a chyda'i cyhoedd. Roedd dros 50 yno a phawb gyda rhywbeth diddordol i'w ddweud. Cafwyd cyfraniadau difyr gan Eigra Lewis Roberts a Gareth Miles, ond efallai y seiswn fwyaf diddorol oedd y drafodaeth rhwng awduron a'u golygyddion - ac wrth gwrs roedd y sgwrs rhwng Alun Jones a Caryl Lewis yn hynod o ddiddorol. Fe glywsom am y drafodaeth rhwng y ddau ynglŷn â'r nofel Martha Jac a Sianco. Fe ddysgwyd un ffaith ddiddorol iawn - fe berswadiodd y golygydd yr awdur i hepgor ei phennod olaf a gorffen ei nofel yn gynt. Petai'r bennod olaf wreiddiol wedi aros yn ei lle, roedd y ddau yn awgrymu y buasai wedi bod yn nofel wahanol iawn. Efallai y cawn wybod rhyw ddydd! Ar ddiwedd y dydd roeddwn i'n cadeirio sesiwn Hawl i holi, ond roedd hi'n ymddangos fod y tywydd twym a'r cyfle i siarad drwy'r dydd wedi bod yn drech na'r gynulleidfa ac roedd yr hawl i holi yn cael ei anwybyddu gan y rhan fwyaf. Diwrnod llwyddiannus a diddorol.

Rhagor o luniau o'r gynhadledd 'Meithrin perthynas'.