Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-13

Swpera mewn disgo

RP wrth y bar yn cael ei gamddeall!Roedd RP a finnau wedi penderfynu taw yn nhafarn Le Saint D'Hic dafliad carreg o'r gwesty yn Stalingradlaan y busen ni'n cael ein swper diwethaf ym Mrwsel. Nid oedd dim yn fawreddog am y tafarn, i ddweud y gwir roedd yn gartrefol iawn. Roeddem wedi bwriadu eistedd y tu fas, ond roedd hi'n bwrw glaw yn drwm ac felly roedd yn rhaid inni eistedd y tu fewn. Cawsom groeso tywysogaidd gan y dafarnwraig ac fe wnaethon ni ddewis ein bwyd a'n diod. Roedd y cyhoeddiad fod Llundain wedi ennill yr hawl i fod yn gartref i gemau olympaidd 2012 newydd gyrraedd ac roeddwn i wedi awgrymu i RP y dylai'r ddau ohonom fynd ar daith feddwol-ddinistrol trwy ganol Brwsel a'r Grote Markt fel teyrnged i lwyddiant ein prifddinas. Ond oherwydd ei bod hi'n bwrw glaw fe benderfynwyd gohirio'r daith feddwol-ddinistriol tan rywbryd arall.

Disgo yn nhafarn Au Saint D'Hic, BrwselA diolch byth am hynny oherwydd fe gafwyd pryd hyfryd o fwyd yn Le Saint D'Hic. Ond unwaith i'r bwyta orffen dyma rywbeth rhyfedd yn digwydd. Roedd y lle yn gymharol wag, ond fe ddechreuodd y dafarnwraig chwarae cerddoriaeth ddisgo a dyma hi a chyfeilles yn dechrau dawnsio a dyma droi'r golau lawr a throi goleuadau disgo ymlaen. Prin fod lle i grogi llygoed yn y tafarn, ond roedd hi'n amlwg fod gan y ddwy obsesiwn gyda disgos y 1970au ac fe gafwyd sbort mawr yn gwylio'r ddwy yn ailfyw eu hieuenctid. Pan ddywedais wrth ffrind am beth ddigwyddodd ei ymateb yntau oedd fod y peth yn swnio fel rhywbeth y buasech yn ei weld ar y rhaglen deledu Eurotrash - dwi'n credu fod hynny yn disgrifio natur y peth i'r dim. Wedi'r fath gyffro roedd y ddau ohonom yn barod am y gwely a wynebu'r daith yn ôl i Lundain ac Aberystwyth yn y bore.

Y lluniau o'r trydydd diwrnod yng Ngwlad Belg a'r Iseldiroedd.