Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-13

Dim ffordd adref

Roedd y trên i Lundain yn gadael Brussel-Zuid am 12.58, felly roeddem yn medru afforddio dod lawr yn gymharol hwyr i frecwast heddiw er mwyn ffarwelio â'r cyfeillion yn Hotel Stalingrad. Roeddem ni yn yr orsaf erbyn rhyw 10.30 a dyna pryd ges i neges destun oddi wrth Dr MWR yn Aberystwyth yn dweud fod rhywbeth wedi digwydd yn Llundain. Doedd hi ddim yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwyd ar y pryd - 09.30 oedd hi ym Mhrydain, ac erbyn hyn rydym yn gwybod fod y bomiau newydd ffrwydro ar y trenau tanddaearol. Ond bryd hynny doedd neb yn rhy siwr beth oedd wedi digwydd, ond roedd pawb yn dechrau ofni'r gwaethaf. Yn raddol fe aeth y si ar led fod ymosodiad wedi bod yn Llundain, ond doedd neb yn rhy siwr. Dyma fynd drwy'r drefn arferol ar gyfer teithio - cofrestru, trwy dollau Gwlad Belg ac yna heibio i'r swyddogion Prydeinig gan ddangos ein pasports. Ceisio ffonio ac o'r diwedd dyma MFE yn fy ffonio a medru dweud fod popeth yn iawn, ac nad oeddem ni wedi cyrraedd Llundain eto. Mwy o hanesion am fomiau ar drenau tanddaearl a bysus yn dod trwyddo. RP yn llwyddo i ffonio ei dad. Neb yn dal yn siwr iawn o beth yn gywir roedd yn digwydd. Negeseuon testun yn dod oddi wrth Dr MWR unwaith eto, un gan DJP. Yn raddol roedd hi'n dod i'r amlwg fod rhywbeth mawr wedi digwydd yn Llundain y bore hwnnw. Ond roeddem ni yn dal i giwio yn yr ystafell aros i fynd ar y trên Eurostar. Yna lai na hanner awr cyn amser ymadael dyma gyhoeddiad yn dweud fod digwyddiad yn Llundain yn golygu nad oedd urnhyw drafnidiaeth yn y ddinas o gwbl a bod y cwmni yn cynghori teithwyr i beidio â mynd i Lundain. Nawr roedd yn rhaid penderfynu beth i'w wneud - roedd hynny'n ofid, beth ddylem ni ei wneud? Mynd? Aros? Yn y diwedd roedd hi'n amlwg na fyddai modd gadael gorsaf Waterloo Rhyngwladol os nad oedd trafnidiaeth gyhoeddus ac fe allen ni fod yn aros yno dros nos. Buasai'n haws dod o hyd i wely ym Mrwsel. Felly dyma benderfynu aros, a dyma'r panig a'r gofid yn peidio. Unwaith inni benderfynu beth i'w wneud roeddwn ni'n dawel ein meddyliau. Wrth gwrs roedd yn rhaid dod o hyd i le i aros, ac fe lwyddwyd i gael lle mewn gwesty y drws nesaf i'r orsaf. Yno fe gawsom ein golwg gyntaf ar newyddion y BBC a chlywed am yr ofnau am y lladdedigion oherwydd y bomio. Roeddem yn ddiolchgar iawn nad oeddem wedi mynd ar drên cynharach a'n bod wedi penderfynu aros ym Mrwsel am noson arall. Mae'n swnio'n hunanol i ddweud hynny dwi'n gwybod, ond dyna sut roeddwn i'n teimlo yn wyneb beth ddigwyddodd. Roedd diwrnod o ddathlu oherwydd y gemau olympaidd wedi troi yn hunllef dros nos a bu'r ddau ohonom yn gwylio'r newyddion ofnadwy o Lundain ar y teledu am ryw awr.