Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-13

Dod 'nôl o Eindhoven i Frwsel

Albertina, BrwselAr ôl ein cyfarfod yn Eindhoven roedd yn rhaid dod yn ein holau i Brwsel ar gyfer cyfarfod arall drannoeth. Cafwyd taith yn ôl cystal â'r daith yno gyda'r trenau yn cysylltu'n wych. Roedd yna hanner awr, a dim ond hanner awr, i i ddisgwyl y cysylltiad yn Roosendaal. Rhoddodd hynny gyfle i RP a finnau edrych o gwmpas yr orsaf yno a chael waffel i'w fwyta. Wedyn teithio yn ôl trwy Antwerpen a Mechelen i Frwsel.

Sint Jakob op Koudenberg, BrwselWrth ddod yn ôl i Frwsel dyma benderfynu disgyn yng ngorsaf Brussel-Centraal, hytrach na Brussel-Zuid, a mynd i chwilio ble fyddai'r cyfarfod drannoeth. Roeddem yn mynd i ddringo'r Kunstberg, neu'r mynydd celfyddyd, reit yng nganol Brwsel. Dyma lle mae v'na nifer o amgueddfeydd celf a'r llyfrgell genedlaethol - Koninklijke Bibliotheek van België, hynny yw Llyfrgell Frenhinol Gwlad Belg-, a'r cyfan o gwmpas y palas brenhinol ac eglwys hardd Sint-Jakob op Koudenberg. Yno ymhlith yr holl adeiladau crand fe ddaethon ni o hyd i swyddfa weinyddol Amgueddfeydd Brenhinol Celfyddyd Gain Gwlad Belg, yn Museumstraat. Roeddem yn gwybod felly lle roeddem am fynd ac felly llai o ofid inni yn y bore.

BrwselWedi ymweld â'r Kuntsberg dyma gerdded ar hyd y Koningstraat hyd ar y Justitiepaleis. O'r tu fas i'r Justitiepales, neu'r Llysoedd Barn, y man uchaf ym Mrwsel, mae 'na olygfa orau o'r ddinas sydd i'w gael medden nhw. Roeddem wedi cerdded a cherdded erbyn hyn ac yn barod am swper, felly 'nôl â ni ar y tram tanddaearol am Brussel-Zuid. Fe gawsom y tram o orsaf Louiza, ac o fan'ny rhaid oedd mynd am Zuid cyn newid am orsaf Anneesens, nid nepell (neu nepell) o'r gwesty. Gallwch ddilyn ein taith ar y cynllun hwn o'r sustem danddaearol.

Rhagor o luniau o adeiladau'r Kunstberg, Brwsel.