Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-11

Rhoi trefn ar bethau

Roeddwn i wedi meddwl cael cyfle dros y penwythnos i roi trefn ar bethau. Mae gen i gymaint o bethau i sôn amdanynt. Un o'r pethau hynny oedd y profiad o fod yn "rhan" o ddigwyddiad terfysgol am y trydydd tro. Un o'r rhesymau fod popeth mor annhrefnus yw'r ffaith fy mod wedi fy atal rhag dod adref ddydd Iau diwethaf gan y digwyddiadau dychrynllyd yn Llundain. Roeddwn i yn disgwyl i fynd ar drên yr Eurostar ym Mrwsel pan wnaed cyhoeddiad yn dweud fod y cwmni yn cynghori teithwyr oedd yn bwriadu mynd i Lundain i beidio gwneud hynny. Roedd yn rhaid penderfynu o fewn ychydig funudau beth i'w wneud. Roedd yr ychydig funudau hynny o ansicrwydd yn anodd, ond yn y diwedd gan nad oedd unrhyw drafnididaeth gyhoeddus yn Llundain doedd dim rhyw lawer o bwynt meddwl am fynd yno. Felly aros am noson arall ym Mrwsel a dod 'nôl ddydd Gwener bu'n rhaid - ond mae hynny wedi effeithio ar bopeth ers hynny. Dwi'n gwybod ei bod yn swnio'n hunanol iawn imi boeni am fy amserlen ar adeg pan fo cymaint wedi dioddef, mae'n ddrwg gen i am swnio felly, ond mae'n rhaid imi fynd ymlaen â byw.