Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-09

Ar goll?

Newydd dderbyn sylw gan un o ddarllenwyr Blog Dogfael ei fod wedi teimlo ar goll ers wythnos heb imi ychwanegu dim at y blog. Dwi wedi bod ar goll hefyd dros yr wythnos ddiwethaf heb fod yn ysgrifennu i'r blog. Dwi'n gobeithio gwneud iawn am hynny dros y penwythnos a dweud ychydig bach o'm hanes i dros yr wythnos ddiwethaf a pham nad oes dim newydd wedi ymddangos.

Dros yr wythnos diwethaf dwi wedi bod yn brysur iawn - bues i ym Mrwsel am bum diwrnod a chyn hynny roeddwn i wedi bod mewn cynhadledd undydd wedi'i threfnu gan y Cyngor Llyfrau a chwis bwyd a gwin Plaid Cymru. Felly dwi heb fod ag unrhyw amser i ysgrifennu dim ar gyfer y blog, ond fe fydd pethau'n newid heno ac yfory. Mae gen i hefyd ffotograffau o'r holl bethau y bues i yn eu gwneud, felly dwi'n gobeithio y bydd pawb yn hapus cyn bo hir.