Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-11

Dim llonydd i'w gael

Cwis Plaid Cymru 2005-07-01Mae'n teimlo weithiau nad oes llonydd i'w gael o gwbl. Mae wastad rhywbeth i'w wneud. Ers dros wythnos dwi ddim yn teimlo fy mod wedi cael yr un awr i fi fy hun i wneud yr hyn dwi am ei wneud. Nos Wener, wythnos yn ôl bellach, fe gafwyd cwis bwyd a diod yng Nghanolfan Merched y Wawr. Noson gymdeithasol ar gyfer aelodau Plaid Cymru Aberystwyth a Phenparcau. Syniad Dr MWR oedd y noson - mae hi wastad yn cael syniadau da. Ond wrth i'r noson ddod yn nes roedd yr adnoddau oedd eu hangen i gynnal y noson yn dod yn fwy amlwg, ac yn ychydig o ofid. Ond yn y diwedd fe droes popeth allan yn iawn. Daeth nifer go lew ynghyd, ac fe gafwyd tipyn o hwyl yn ceisio adnabod y gwahanol winoedd a chawsiau.

Cwis Plaid Cymru 2005-07-01Un o rowndiau'r cwis oedd ceisio dyfalu pa saig y gellid paratoi yn defnyddio cynhwysion penodol. A ydych chi'n medru dyfalu?

SAIG 1 / DISH 1
Halen a phupur du / Salt and black pepper
1 llwyaid ford o olew'r olewydd / 1 tablespoon olive oil
1 llwyaid ford o sudd lemwn / 1 tablespoon lemon juice
Pupur cayenne / Cayenne pepper
¼ llwyaid de o saws Caerwrangon / ¼ teaspoon Worcestershire sauce
Saws Tabasco / Tabasco sauce
½ winwnsyn bach wedi'i ratio / ½ small onion, grated
2 ewyn o arlleg, wedi'u gwasgu / 2 cloves of garlic, crushed
3 afocado aeddfed / 3 ripe avocados

SAIG 2 / DISH 2
75g siwgr mân / 75g caster sugar
300ml hufen dwbl / 300ml double cream
150ml gwin gwyn (melys) / 150ml white wine (sweet)
35ml brandi / 35ml brandy
1 lemwn / 1 lemon

SAIG 3 / DISH 3
2 ewyn o arlleg / 2 cloves garlic
2 llwyaid bwdin o finegr gwin coch / 2 dessertspoons red wine vinegar
1 gucumer fechan / 1 samll cucumber
Halen a phupur du / Salt and black pepper
2 bupren felysgoch / 2 sweet red peppers
1 winwnsyn Sbaenaidd mawr / 1 large Spanish onion
3-4 llwyaid ford o olew'r olewydd / 3-4 tabelspoons olive oil
750g tomatos, wedi tynnu eu croen a'u hadau, a'u torri'n fân / 750g tomatoes, skinned deeseeded and
finely chopped
450ml sudd tomato / 450 ml tomato juice
4 tafell drwychus o fara gwyn sych / 4 thick slices stale white bread
450ml dŵr gyda rhew / 450ml iced water

SAIG 4 / DISH 4
450ml llaeth / 450ml milk
Cnepyn o fenyn / Knob of butter
1 winwnsyn canolig / 1 medium onion
Halen
Hadau pupur / Peppercorns
1 ddeilen lawryf fechan / 1 small bay leaf
2 glôf / 2 cloves
75g o friwsion bara gwyn ffres / 75g fresh white breadcrumbs

SAIG 5 / DISH 5
150g ymenyn / 150g butter
3 wy / 3 eggs
150g siwgr / 150g sugar
150g blawd hunan-godi / 150g self-raising flour

Rhagor o luniau o'r noson gwis.