Fel y dywedais bydd y gegin yn y llety ym Mangor heb unrhyw iwtensliaid, cwtleri na dim arall felly mae'n rhaid inni fynd â phopeth fydd ei angen gyda ni. Dyma restr dwi wedi'i pharatoi i'n helpu. A yw popeth hanfodol arni? Beth ych chi'n ei feddwl?
Unigolion
1 gyllell
1 fforc
2 lwy bwdin (neu 1 lwy bwdin ac 1 lwy gawl!)
1 lwy de
1 myg
2 wydr (dŵr/cwrw a gwin)
2 fowlen (brecwast, cawl, pwdin)
1 plat bach
1 plat cinio
Coginio a gweini
1 sosban fawr 
2 sosban fach 
1 gwasgogydd 
1 ffrimpan 
1 woc 
1 bowlen salad/bowlen gymysgu 
1 set o iwtensliaid salad 
1 gyllell fara 
1 pliciwr 
2 gyllell lysiau 
1 gyllell fawr 
1 hidl 
1 colander 
1 hylifydd llaw 
3 llwy fawr 
1 gratydd 
1 set o lwyau mesur 
1 siwg fesur 
1 set o dongiau 
1 stwmpwr 
1 lwy bren gymysgu 
1 lletwad
1 siswrn 
1 hambwrdd bobi
1 weiran oeri 
1 tun rhostio 
1 caserol 
1 dafol
1 corcsgriw/agorydd poteli 
2 blat ar gyfer gweini
1 ddysgl bobi
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.
 
