Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-28

Dysgu iaith

Darllenais sylwadau diddorol iawn ar Morfablog. I'r rhai nad ydyn nhw wedi gwneud ymdrech wirioneddol i ddysgu iaith arall (ac mae hynny'n cynnwys y mwyafrif llethol y Cymry Cymraeg sy'n bodloni ar wybod Saesneg) mae'n anodd iawn deall beth sy'n cael ei ennill wrth wneud hynny. Mae deall beth sy'n digwydd pan ych chi'n dysgu iaith a gollwyd gan eich rhieni neu'ch tadau- a mamau-cu yn llawer mwy.
Morfablog: Bobi Jones

Cyfweliad â Bobi Jones, yn Saesneg gan y bardd Robert Minhinnick. Mae’r holl beth yn werth ei ddarllen, ond dyma ddau baragraff am y profiad o ddysgu Cymraeg:

I sometimes think that the full blast of simply regaining and restoring the language is as valuable and as inspiring as the language itself. First language Welsh people miss a lot, despite their many advantages. The full discovery can be breathtaking.

Getting hold of the language itself, now that in itself is a positive transforming task. Our own just heritage opens out, the country itself becomes more complete, old suppressed wounds are healed, new wonders and relationships are uncovered, and a more sensitive comprehension of internationalism in a more complete and enriching world is opened up. Apart from gaining a unique and vitally creative culture, learning the language is an honour and a revelation, particularly when done in its full context and taught in a well-graded course (not presented on the basis of ‘functional’ fads or show-biz patterns), but founded in a well-disciplined manner within the necessary sequential structures of the language. The language is a great world for everyone. Its essence and existence explain so much.

Llawer mwy o stwff diddorol yn y rhifyn arbennig Cymreig o’r cylchgrawn Transcript.
Diolch Morfablog am dynnu fy sylw at hyn. Mae iechyd corfforol yn cael y flaenoriaeth gan lywodraethau y dyddiau hyn ac fe fydd biliynau yn cael ei wario ar ariannu y Gemau Olumpaidd yn Llundain. Byddai gweithredu cynllun Iaith pawb yn iawn a chyda chyllideb go iawn i wneud gwahaniaeth yn dod â iechyd emosiynol i gymaint o bobl yng Nghymru. Ond mae'n ormod i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r gweinidog diwylliant i weld hynny mae'n siŵr. Bydd yn rhaid inni fodloni ar basports Cymraeg eleni eto. Ond mae'r rheiny yn siŵr o wneud i rywun deimlo'n well, on'd ydyn nhw?