
Ar orsaf Eindhoven roedd 'na bosteri ym mhob man yn datgan "God houdt van jou!", neu "Mae Duw yn dy garu!" Roedd hi'n dda cael fy atgoffa fan hyn o bob man fod rhywun yn fy ngharu. Roedd y posteri wedi'u rhoi yn eu lle gan fudiad o'r enw Stevan, neu Stichting Stations Evangelisatie, sy'n gosod negeseuon Cristnogol mewn gorsafoedd trenau yn yr Iseldiroedd.