Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-21

Gwlad gobaith a gogoniant

Dwi'n clywed y bore 'ma, yn ôl y Times fod cynghorydd yng nghanolbarth Lloegr wedi awgrymu peidio â defnyddio Land of hope & glory fel rhan o'r seremoni gofio fis Tachwedd oherwydd ystyriaethau "gwleidyddol". Wrth gwrs mae pawb arall wedi ymateb gan ddweud fod hyd yn oed awgrymu fod y gân yn wleidyddol yn ddwl. Nid oes gen i farn a ddylai'r gân gael ei defnyddio fel rhan o'r seremoni, ond mae'r cynghorydd yn gwbwl iawn am ei chynnwys gwleidyddol. Cafodd y geiriau eu hysgrifennu reit ar ddechrau'r ugeinfed ganrif pan roedd yr ymerodraeth Brydeinig yn dal i dyfu, ac maent yn dathlu'n bendant iawn taw rhyddid a gwirionedd fu'n gyfrifol am sefydlu'r ymerodraeth honno. Mae'n rhaid bod ffordd wahanol o edrych ar hynny, glei. Dyma beth mae un o'r penillion yn ei ddathlu'n falch:
Thine equal laws, by Freedom gained,
Have ruled thee well and long;
By Freedom gained, by Truth maintained,
Thine Empire shall be strong.

Land of Hope and Glory,
Mother of the Free,
How shall we extol thee,
Who are born of thee?
Wider still and wider
Shall thy bounds be set;
God, who made thee mighty,
Make thee mightier yet.

Dwi'n methu credu y bydd y Lleng Brydeinig yn Wolverhampton yn canu'r geiriau hyn'na gydag eironi ôl-fodernaidd. Wrth gwrs, fe allen i fod yn anghywir.