
Roedd hi'n hyfryd cael cwmni CGw gan ei bod hi รข sgwrs mor ddifyr bob amser. Cyn bo hir fe fydd hi'n ffarwelio ag Aberystwyth ac yn dychwelyd i weithio yn Ysgol Preseli, Crymych, fy alma mater innau mewn ffordd o siarad - o ran yr adeiladau 'ta beth. Mae wedi bod yn bleser cael ei chwmni dros y blynyddoedd diwethaf 'ma. Roedd gweddill y cwmni yr un mor ddifyr wrth gwrs, ac fel arfer fe wnaethon ni drafod gwleidyddiaeth a llenyddiaeth! Lle diddorol yw Aberystwyth.
Rhagor o luniau o'r Orendy neithiwr.