Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-17

Cyfarfod gyda Sali Mali

Sali Mali ac ASHeddiw cefais gyfle arall i fynd ar wibdaith diolch i'm cyfaill annwyl RO. Y tro hwn i dref newydd ddiweddaraf Cymru sef Pentre Bach. Saif Pentre Bach yn agos i Flaenpennal yng nghefn gwlad Ceredigion. Yr hyn sy'n gwneud Pentre Bach yn wahanol i holl bentrefi a threfi eraill ein gwlad yw taw dyma lle mae Sali Mali yn byw. Bu Sali Mali yn seren byd y plant bach a'r plant mwy ers blynyddoedd bellach a nawr mae'r gyfres Pentre Bach wedi'i throi yn siwper-seren dros nos. Ym Mhentre Bach y caiff y gyfres ei ffilmio ac mae cyfaill i RO yn un o berchnogion y pentref. Mae wedi bod yn agor ers y Sulgwyn ac felly roeddem wedi bod yn edrych am gyfle ers tipyn i daro mewn i weld Sali Mali yn ei chynefin.

Sali Mali a'i ffrindiau, Pentre BachPan gyrhaeddodd RO a finnau Bentre Bach roedd 'na nifer o ymwelwyr yno'n barod - yn oedolion ac yn blant. Ac roedd y perchnogion yn tywys yr ymwelwyr o gwmpas. Yn anffodus i mi dwi ddim wedi gweld y gyfres ac felly nid oeddwn yn medru gwerthfawrogi'n llawn yr hyn yr oeddwn yn ei weld. Roeddwn wedi clywed am rai o'r cymeriadau, ond roedd rhai yn ddieithr imi. Roedd ôl llawer iawn o waith o gwmpas y pentref. Ond beth oedd yn bwysicach oedd gweld ymateb y plant i'r lle - roedden nhw'n llawn rhyfeddod ac yn amlwg yn caru Sali Mali. Wrth weld tair o ferched ifainc yn rhedeg lawr i dŷ Sali Mali yn sgrechen mewn cyffro y sylweddolais fod y ddynes ryfeddol hon yn gwneud llawer mwy na difyrru ein plant. Mae Sali Mali yn haeddu ei henwi ochr yn ochr ag Arundhati Roy fel un o brif ymladdwr globaleiddio yn ein byd heddiw. Mae Sali yn herio hegemoni diwylliannau mwy - Asterix, Mici'r Llygoden, Tintin - wrth osod arwr arall o fewn i'n diwylliant ar gyfer ein plant. Mae croeso iddynt droi at eraill, ond mae'n bwysig fod ganddynt rywun o fewn i'w diwylliant hefyd.

Oherwydd fod RO yn adnabod y perchennog fe gawsom ni ein dau ein trin fel PBIs (=Pobol bwysig iawn) am y dydd. Diolch am y cyfle i ymweld â'r fenter unigryw hon.

Rhagor o luniau o'n hymweliad â Phentre Bach.