Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-29

Wedi penderfynu ar y fwydlen

Swper 2005-07-05O'r diwedd dwi wedi penderfynu ar y fwydlen ar gyfer swper am yr wythynos nesaf yn yr Eisteddfod. Mae'n mynd i fod yn fwydlen ryngwladol, ond gyda phwyslais Ewropeaidd pendant. Dwi'n mynd i gyfuno seigiau o Fflandrys, Gwlad y Basg, yr Eidal, Gwlad Groeg, Moroco a Fflandrys, wrth gwrs, i greu amrediad iachus a diddorol o flasau a phrofiadau bwydol. Wrth gwrs mae'n bosib i'r pethau yma newid gan ddibynnu beth dwi'n dod o hyd iddo ym marchnadoedd bwyd enwog Bangor neu wrth deithio drwy'r ardal.

Nos Sadwrn
Antipasti - Ragù alla Bolognese gyda phasta - Hufen ia

Nos Sul
Salad awbergeniaid - Cawl minestrone - Caws a bisgedi
(Dim byd rhy drwm gan y byddwn ni wedi bod mas am ginio dydd Sul)

Nos Lun
Salad Fflandrysaidd - Carbonad Fflandrys - Wafflau

Nos Fawrth
Salad - Stiw porc gyda thomatos ac awberginiaid gyda reis - Crème caramel

Nos Fercher
Salad Groegaidd - Pastitso twrci - Ffrwythau gyda iogwrt a mêl

Nos Iau
Mas i swper heno, neu dêc-awê, ond os nad ydym yn mynd, yna
Salad - Tatws pum munud a chacen gnau rost - Pancos

Nos Wener
Salad - Tajîn cyw iâr gyda bricyll, priwns a mêl - Eirin gwlanog amaretti siocled

Nos Sadwrn
Salad tomatos - Golwython porc wedi'u pobi gyda llysiau a thatw - Pwdin reis Iberiaidd