Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-04

Ystadegau

Ers deufis dwi wedi bod yn cadw ystadegau ar faint o bobol sy'n galw heibio'r blog. Ar gyfartaledd mae rhyw 54 yn gwneud bob dydd, ond mae rhai diwrnodau yn fwy poblogaidd na'i gilydd. Efallai y buasai o ddiddordeb ichi wybod fod y nifer fwyaf o ymwelwyr, sef 137, wedi galw heibio'r blog ddydd ola mis Mai. Dwi'n credu fod rhyw 40 yn darllen yn rheolaidd. O'r rhai sy'n galw heibio mae'r nifer fwyaf yn gwneud rhwng 9.00 a 10.00 y bore. Ond mae 'na nifer go lew yn galw heibio rhwng 11.00 a 12.00 y nos hefyd. Bydd ymwelwyr tramor yn galw heibio weithiau - fel arfer am eiliad neu ddwy, ond mae 'na rai sydd yn aros am fwy na hynny. Diddorol.

Mae'n ddiddorol hefyd pa luniau yw'r mwyaf poblogaidd. Ar ddiwedd mis Mai dyma oedd rhai o'r lluniau mwyaf poblogaidd o'm casgliad Flickr.

Stondin Gwynedd Williams Books yn y ffair lyfrau, Ysgol Penweddig
Stondin Gwynedd Williams Books yn y ffair lyfrau, Ysgol Penweddig

Eglwys Bresbyteraidd Tabernacl, Aberaeron
Eglwys Bresbyteraidd Tabernacl, Aberaeron

Seld Dr HW
Seld Dr HW

Car newydd RO
Car newydd RO

Rachel yn gweithio ym mwyty Tŵr y Cloc
Rachel yn gweithio ym mwyty Tŵr y Cloc