Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-04

ACD

Wrth siarad gyda GC y bore 'ma dyma hi'n dweud fod ACD wedi bod yn darllen y blog ac wedi sylwi ar rywbeth roeddwn i wedi'i ddweud. Dwi ddim wedi gweld ACD ers tipyn, ond mae gwybod ei fod yn teimlo ddigon da i wynebu'r blog yn gysur. Dwi'n fawr obeithio hefyd ei fod yn teimlo'n well ar ôl ei ddarllen ac nid yn waeth. Dwi'n gobeithio hefyd ei fod wedi cael caniatâd y meddyg cyn gwneud!