Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-04

Galw gyda'r cymdogion

MJ, TJ, IBJ a GC wrth y ford swperNeithiwr fe gefais wahoddiad i gino gyda fy nghymdog. Roedd GC wedi paratoi swper blasus iawn yn y lle cyntaf ond fe gefais wledd bellach wrth ei chlywed hi, IBJ, MJ a TJ yn adrodd hanes Eisteddfod yr Urdd yn llawn. Mae llawer o drafod wedi bod ar yr Eisteddfod yng Nghanolfan y Mileniwm. O'r hyn oedd gan GC i'w ddweud mae'n ymddangos fod rhai pethau wedi gweithio'n dda iawn, a phethau eraill heb wneud. Roedd cael y Maes Carafannau bum milltir o'r "maes" ddim yn llawer o help, ond roedd rhoi'r cyfle i aelodau'r Urdd berfformio ar lwyfan fel un y Ganolfan yn rhywbeth arbennig iawn ac yn ysbrydoliaeth i lawer ohonynt mae'n siŵr. Nid oedd gan MJ sylw i'w wneud ar y mater hwnnw, ond mae hi'n brofiadol iawn gyda Chôr Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac wedi bod ar lwyfannau tebyg o'r blaen. Roedd pawb, heblaw am IBJ, ddim yn rhy frwdfrydig am y cawodydd cymunedol yn y maes carfannau chwaith.

Swper 2005-06-04O siarad gyda GC mae'n amlwg fod y "maes" heb weithio chwaith gan nad oedd rhyw lawer i siâp iddo. O siard gyda DML, a oedd ar stondin Cymdeithas yr Iaith drwy'r wythnos draw ar bwys yr Eglwys Norwyaidd, mae'n amlwg fod y "maes" heb weithio o gwbl o gwbl! Wrth inni drafod hyn i gyd pwy ddaeth mewn ond DC yn syth o'r Eisteddfod. Roedd e newydd fod ar y teledu yn sôn am brosiect oedd gan y Gronfa Loteri Fawr ar y cyd gyda ITV yng Nghymru i roi tri grant o £50,000 i fudiadau, &c. yng Nghymru. Am ryw reswm y peth cyntaf wnes i ei wneud oedd ymosod ar y Loteri Wladol! Roedd y plant wedi bod yn fywiog iawn yn ystod y prynhawn a dwi'n credu fod hynny wedi cael rhyw fath o ddylanwad arna i! (Wel dyna fy esgus i 'ta beth, dwi ddim yn gwybod a fydd hynny'n gweithio gyda DC.) Druan ag ef mae'n rhaid ei fod yn meddwl fy mod yn lob, ond fe wnaeth ddelio gyda'r peth yn ddiplomataidd iawn, fel buasai disgwyl i ddyn PR wneud - wnaeth e ddim ateb 'nôl dim ond gwneud un gosodiad cryno oedd yn gwrthbrofi fy nadl a'i gadael fan'na. Trueni na allen i fod mor ddoeth â hynny.