Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-25

Yr X40 i Lanbedr Pont Steffan

Siop Morrisons, Llanbadarn FawrDwi yn mwynhau siwrne ar fws os yw'r amgylchiadau'n iawn. Digon o le, dim yn rhy dwym, dim gormod o blant, &c. Roedd heddiw yn iawn ac felly pleser oedd y daith lawr i Lanbedr PS. Yr X40 yw'r hen Draws Cambria mewn ffordd o siarad. Er mewn gwirionedd mae'n wasanaeth newydd. Mae'r X40 yn wasanaeth rhwng Aberystwyth a Chaerdydd ddwywaith yr dydd, ond mae'n rhedeg bob awr yn ystod y dydd i Gaerfyrddin. Am 6.30am doeddwn i ddim wedi disgwyl gweld neb lawer yn yr orsaf. Roeddwn i'n anghywir, wrth gwrs. Roedd rhyw ddwsin yno yn disgwyl yn y glaw. Cefais docyn dychwelyd i Lambedr PS - £4.50 - ddim yn rhy ddrwg. Fe ddaeth rhyw wyth neu naw ar y bws ym Mhenparcau ac un neu ddau fan'yn a fan'co ar y ffordd lawr i Aberaeron. Yn rhyfedd daeth neb ar y bws yn Aberaeron, ond yn Llanbedr PS lle'r oeddwn i'n gadael roedd 'na rhyw hanner dwsin yn disgwyl wrth y arosfan.

Cefais i sedd yn y ffrynt yn union y tu ôl i'r gyrrwr fel dwi'n hoffi ei wneud. Roeddwn i'n arfer cael salwch teithio ofnadwy pan yn blentyn ac ar ôl tyfu, ond ers y pum mlynedd ddiwethaf mae e wedi diflannu i raddau helaeth. Roedd pethau yn arfer bod yn cynddrwg ar fws ag oedden nhw ar long neu gwch. Ond nawr dim ond yn anaml iawn iawn y bydd hynny'n digwydd. Dwi ddim yn deall pam, ond mae'n fendith fawr i mi. Erbyn hyn mae hi'n sedd dda iawn ar gyfer tynnu lluniau o'r daith i lawr i Lnmbedr PS.

Digwyddodd dim allan o'r cyffredin ar y daith ac erbyn rhyw 7.30am roeddwn yng nghanol Llanbedr PS gwlyb a diflas yn chwilio am rywle i gael paned ac i gysgodi.

Dilyn y daith o Aberystwyth i Lanbedr Pont Steffan ar yr X40 mewn lluniau.