Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-25

Dai's Diner, Llanbedr Pont Steffan

Dai's Diner, Llanbedr Pont SteffanRoedd hi'n dipyn o fenter cyrraedd Llanbedr PS am 7.30am a dod o hyd i le i gael cysgod a rhywbeth i'w fwyta. Roedd RP yn credu nad oedd 'na le ac wedi gofyn imi alw heibio'r tŷ. Ond roedd 7.30am braidd yn gynnar. Roedd hi'n bwrw'n drwm pan ddaeth y bws i mewn i'r dref felly roedd hi'n rhaid imi ddod o hyd i rywle neu alw gyda RP. Diolch byth o fewn dim dyma ddod ar draws caffi cynnes a sych o'r enw Dai's Diner. Y lle yn llawn mwg a dynion yn yfed coffi ac yn darllen papurau newyddion. A Dai y tu ôl i'r conwter. Roedd nifer yn siarad Cymraeg, ond fe'm synnwyd unwaith eto gan nifer y bobol oedd ddim yn siarad Cymraeg neu ddim yn dewis gwneud o leia. Roedd Dai, os dyna pwy oedd y tu ôl i'r cownter, yn siarad Cymraeg fel Cardi ond roedd ei Saesneg fel un Cocni a dyma fi'n dod i'r casgliad ei bodyn rhaid ei fod e'n un o Gymry Llundain, neu wedi treulio tipyn o amser yno. Lle da a lle rhad y buaswn yn ei argymell i bawb sy'n cael eu hunain yn Llanbedr am 7.30am. Ges i de a thost i gychwyn - ymhen awr brechdan sosej a the. Ac erbyn hynny roedd hi'n amser imi fynd lawr i'r tŷ i gwrdd ag RP ar gyfer y lifft i Landrindod.

Rhagor o lunaiu o Dai's Diner, Llanbedr Pont Steffan.