Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-18

Ymweliad arall â'r Orendy

Bara ac olew'r olewydd, Yr Orendy, AberystwythAr ôl dod 'nôl o Bontarfynach aeth pawb eu gwahanol ffyrdd. Roeddwn i wedi addo cwrdd ag RO yn yr Orendy. Pan gyrhaeddais yno roedd y Cwtsh yn llawn, yn llawn o bobol roeddwn i yn eu hadnabod - fe'u galwad yn gylch Dr MWR!. Doedd dim lle i fwy yno felly fe es i ac RO i mewn i'r hen far, a chyn pen dim dyma DML a RP yn ymuno gyda ni. Fe ges i ddiod feddal a bara ac olew'r olewydd i'w gnoi. Bu'r cwmni yn trafod pob mathau o bethau difyd. Fe ddaeth Dr MWR i ymuno â nawr ac yn y man a chefais gyfle i weld ei chamera digidol newydd - gwneuthuriad Sony, ond dwi'n ofni mod i ddim yn cofio'r union fodel. Roedd yn edrych yn un da iawn ac yn hawdd i'w ddefnyddio fel fy Canon PowerShot A400 innau. Roedd hi wedi prynu printydd bychan gyda'r camera ac roedd hi wedi bod yn printio rhai o'i ffotograffau'n barod. Bu hithau ac Elwyn am benwythos yng Nghaerfaddon wythnos yn ôl ac roedd hi wedi tynnu ambell i lun hyfryd o'r ddinas brydferth honno. Dyma beth oedd defnydd da o gamera!

Aeth RO adref tua rhyw 6.45pm ac roeddwn i ar fy ffordd mewn rhyw hanner awr. Roedd rhai yn ceisio gwneud i mi aros yn hwy, ond roedd yn rhaid imi fynd gan fod yn rhaid imi baratoi ar gyfer rhoi sgwrs i wasanaeth ar gyfer pobol o bob oedran fore Sul ("gwasanaeth teuluol" buasai'r hen ffordd draddodiadol o gyfeiro ato!). Mae'n Sul y Tadau yfory a thema "tad" fydd i'r sgwrs.