Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-17

Taith i Bontarfynach

Yr injan, PontarfynachRoeddwn i wedi neilltuo'r bore ar gyfer dyletswydd a gwasanaethu'r genedl, ond roedd y prynhawn wedi'i osod o'r neilltu ar gyfer mwynhad. Roedd fy nghydweithwyr wedi penderfynu y buasai'n syniad da inni wneud rhywbeth gyda'n gilydd, ac felly dyma benderfynu mynd ar y trên bach i Bontarfynach ar Reilfordd Cwm Rheidol. Dwi ddim wedi bod ar y daith hon ers rhyw bymtheg mlynedd o leia, ac mae'n bosib dros ugain mlynedd yn ôl - dwi'n methu'n deg â chofio a fues i yn 1990 ai peidio. Cyn hynny roedd hi'n 1980!

Y criw ym MhontarfynachRoedd y trefniadau yng ngofal RP sydd â diddordeb ysol mewn rheilffyrdd - mae e'n gard ar Reilffordd Ager Gwili. Roedd trên yn gadael am 2.00pm gan gyrraedd erbyn 3.00pm a gadael awr inni grwydro Pontarfynach cyn dychwelyd i Aberystwyth erbyn 5.00pm. Roedd chwech ohonom ni'n mynd - finnau, RP, AVH, GWD, MNJ a SW. Roeddem wedi trefnu dod â bwyd i'w gael ar y ffordd i Bontarfynach, roedd RP hefyd wedi dod â photel o win inni fwynhau ar y ffordd yno. Ar y ffordd 'nôl roedd RP wedi trefnu cacen Bara Beca inni - mae yntau yn deall sut i wneud trenau! Gan fod RP yn deall pethau fe aeth y daith yn gwbl ddidrafferth. Wrth gael un sy'n dwli ar fwrdd roedd hi'n bosib cael atebion i gwestiynau anodd fel beth yw ystyr yr arwydd "Limit of shunt".

Ystafell de Hafod, PontarfynachRoedd y golygfeydd o'r trên yn wych ar y ffordd lan, ac ar ôl cyrraedd Pontarfynach dyma fynd i'r tea rooms yn yr Hafod Arms. Dwi wedi bod yna o'r blaen ac mae fel cerdded i mewn i beiriant teithio mewn amser - rydych chi'n teimlo eich bod chi'n ôl yn y 1950au. Cafodd bawb rhywbeth i'w fwyta a/neu yfed. Nid oeddem am fwyta gormod gan fod Bara Beca gan RP inni fwyta ar y ffordd 'nôl. I ddweud y gwir prin oedd yr amser i wneud mwy nag yfed disied o de cyn ei bod hi'n amser dechrau yn ôl i'r orsaf. Dwi siŵr fod 'na rai sy'n dod gan ddisgwyl digon o amser i hamddena a mynd i weld y rhaeadrau a'r pontydd. Dwi'n ofni y bu'n rhaid i ni fodloni ar weld arwydd oedd yn dweud "Rhaeadrau"!

Rhaeadrau, PontarfynachRoedd teitho lan ar y trên i Bontarfynach yn gwneud imi sylweddoli peth mor od yw bod yn ymwelwyr, neu'n "bobol ddierth" fel yr arferwn ddweud ym Mynachlog-ddu slawr dydd. Ar un llaw mae Pontarfynach yn ddigon cyffredin - mae cael eich cyfarch gan Y Caban a'r Tea rooms a weiren bigog y rheadrau yn ymddangos yn siom ar yr olwg gyntaf - teithio'r holl ffordd ar gyfer hynny. Ond pan geir cipolwg o'r olygfa mae'n gwbl amlwg pam fod pobol yn dal i ddod yma. Mae'n dal yr un mor odidog a rhyfeol â phan ddaeth yr arlunydd John 'Warwick' Smith yma ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymddangosodd printiau yn seiliedig ar ei luniau mewn cyfrol drawiadol iawn, Fifteen views illustrative of a tour to Havod in Cardiganshire, 1810. Mae dal yn werth dod yma bron 200 mlynedd yn ddiweddarach.

AgerAr y ffordd 'nôl roedd y tywydd yn fwy diflas gyda glaw a niwl yn cymysgu gyda'r ager i greu llen o'n cwmpas ar adegau. Roedd y prynawn wedi bod yn un gwych - cafwyd amser da iawn. Mae'n rhyfedd cymaint o hwyl oedd hi i wneud rhywbeth mor gymharol syml â hynny. Dwi'n gobeithio'n fawr y gallwn ni wneud rhywbeth arall eto cyn bo hir. Bydd rhaid meddwl yn gale iawn i ddod o hyd i rywbeth fydd cweit mor ddidrafferth â heddiw.

Dilyn yr holl daith mewn lluniau.